1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2022.
8. Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod peiriannau ATM yn hygyrch mewn cymunedau yng ngogledd Cymru? OQ58775
Nid yw'r cyfrifoldeb dros wasanaethau bancio wedi ei ddatganoli i'r Senedd. Er na all Llywodraeth Cymru, felly, sicrhau bod peiriannau ATM ar gael, rydym ni'n gweithio gyda'r rhai hynny sy'n gallu gwneud hynny, gan gynnwys gwasanaethau arloesol fel hybiau bancio ar y cyd. Rwy'n croesawu'r cynlluniau ar gyfer hwb o'r fath ym Mhrestatyn.
Diolch. Gwnaeth ymchwil gan eiriolwr defnyddwyr Which? y mis hwn ddarganfod bod un o bob pump o bobl yn dweud y bydden nhw'n ei chael hi'n anodd ymdopi mewn cymdeithas ddi-arian parod, a'r rhai ar incwm is, pobl hŷn a phobl sydd â thrafferthion iechyd corfforol neu iechyd meddwl yn arbennig o ddibynnol ar arian parod. Wrth siarad yma yn 2010, codais i'r gofynion rheoli risg a digonolrwydd cyfalaf a'r rheoliadau y bydd yn rhaid i fanc cymunedol newydd gydymffurfio â nhw, na fyddai banc neu bartner cymdeithas adeiladu sefydledig yn gorfod ei wneud. Yn 2017, arweiniais ddadl ar wasanaethau bancio yn y fan yma, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r model bancio cymunedol nid-er-elw. Felly, rwyf i'n croesawu eich cyhoeddiad dilynol am y banc cymunedol i Gymru, Banc Cambria, mewn partneriaeth â Monmouthshire Building Society, yn amodol ar eich sicrwydd mynych na fyddai hyn yn effeithio ar wasanaethau undeb credyd a fframwaith bancio 'hawl dros arian parod' Swyddfa'r Post. Ond yn nigwyddiad Swyddfa'r Post y Senedd fis diwethaf, nid oedden nhw'n ymwybodol o'ch cynigion banc cymunedol a sut y gallai hyn effeithio arnyn nhw. Mae Monmouthshire Building Society wedi dweud wrthyf i ei bod yn bwysicach lansio rhywbeth sy'n iawn na'i lansio'n gyflym, eu bod yn dal i weithio i ymdrin â'r bwlch yn eu darpariaeth sef cyfrif cyfredol, ac na fydd eu safleoedd Banc Cambria o reidrwydd yn ganghennau. Felly, o ran mynediad i arian parod, gan gynnwys peiriannau ATM, beth, felly, yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?
Yn gyntaf, Llywydd, rwy'n cytuno â'r gyfres o bwyntiau y gwnaeth Mark Isherwood ar ddechrau ei gwestiwn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu darparu mynediad at arian parod ar gyfer y cymunedau niferus hynny sy'n dibynnu arno.
Rwy'n synnu nad oedd Swyddfa'r Post yng Nghymru wedi clywed am ddatblygiadau'r banc cymunedol, o gofio iddyn nhw gael cyhoeddusrwydd eang iawn a'u trafod dro ar ôl tro ar lawr y Siambr hon. O ystyried bod hyn yn ganolog i'w gweithgarwch, mae'n syndod mawr yn wir i ddarganfod ei bod yn ymddangos nad ydyn nhw wedi gweld hyn. Byddech chi'n meddwl y bydden nhw'n dymuno cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn fwy gwybodus.
Mae'r gwaith gyda Monmouthshire Building Society yn parhau. Mae yna, fel y byddan nhw wedi esbonio, rai rhwystrau rheoleiddio y mae'n rhaid iddyn nhw eu bodloni. Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod ni wedi ffurfio cynghrair gyda nhw wrth ddatblygu'r banc cymunedol, oherwydd eu bod yn ddarparwr gwasanaeth ariannol sefydledig ac uchel ei barch. Mae datrys rhai o'r rhwystrau rheoleiddio hynny yn haws pan fyddwch chi'n gweithio gyda nhw.
Mae'n bwysig iawn; rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y dywedodd Mark Isherwood. Bwriad y banc cymunedol yw ychwanegu at y gwasanaethau sydd yno'n barod—ochr yn ochr, ond nid mewn cystadleuaeth ag undebau credyd, swyddfeydd post a darparwyr gwasanaethau eraill. Rhan o'r rheswm pam y byddan nhw wedi dweud wrth yr Aelod ei bod yn well cael hyn yn iawn yn hytrach na'i wneud yn gyflym yw sicrhau, pan fydd y banc cymunedol yn weithredol, fod ganddo'r amrywiaeth gywir o wasanaethau a'i fod yn gallu eu darparu ochr yn ochr â'r gwasanaethau eraill hynny sydd yno eisoes ac sy'n gwneud llawer iawn o les ym mywydau pobl y mae sefydliadau ariannol confensiynol, yn y blynyddoedd diwethaf, mwy a mwy, wedi camu'n ôl o ddarparu gwasanaeth.
Diolch i'r Prif Weinidog.