2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:51, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod y bydd nifer o fusnesau'r ardal yn wynebu ansicrwydd oherwydd bod y bont wedi cau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod gyda phrif weithredwr a swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn. Mae'r awdurdod lleol—fel rydych chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr—yn drafftio cynllun gweithredu ar gyfer cefnogi'r gymuned fusnes, ac rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ymweld â'r ardal yn fuan iawn, lle bydd ef, yn amlwg, yn parhau i gael y trafodaethau hynny.