Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Fe deimlais i ddydd Iau diwethaf mai hwnnw oedd un o'r diwrnodau anoddaf a welais fel Aelod yn y Senedd hon. Fe eisteddais i lawr ac fe ddarllenais i bob tudalen o'r adroddiad, ac fe wnaeth hynny fi'n hynod o drist, ond yn fy nigio i'n fawr hefyd, i fod yn onest gyda chi, wrth ddarllen am y methiannau a'r diffygion o ran rhannu gwybodaeth. Rydym ni'n clywed yn aml iawn am ddull amlasiantaeth—wel, rwyf i o'r farn nad oedd y dull amlasiantaeth yn gweithio yn yr achos hwn mewn gwirionedd.
Mae cydweithwyr wedi sôn am y goblygiadau ledled Cymru yn sgil yr adroddiad hwn. Roeddwn i'n awyddus i ganolbwyntio ychydig yn fwy lleol, efallai. Yn y blynyddoedd cyn dod i'r Senedd hon, fe fûm i ar bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol a oedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac nid pleser o gwbl i mi yw dweud wrthych chi heddiw, am gyfnod maith iawn, roedd aelodau'r pwyllgor hwnnw wedi bod yn codi pryderon am yr adran gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—y ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn benodol, dull y cyngor o gyllidebu, ac fe soniwyd am gyfres gyfan o bryderon eraill hefyd. Ond roedd y cyngor o'r farn bod ganddyn nhw enw da am wasanaethau cymdeithasol, ac nid fy lle i yw barnu heddiw a oedd hynny'n wir ai peidio. Ond rwy'n teimlo yn gryf iawn, Dirprwy Weinidog, fod yna ddiwylliant o laesu dwylo yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y modd y cafodd gwasanaethau cymdeithasol eu rheoli ganddyn nhw, ac, yn benodol, roedd diffyg goruchwyliaeth wleidyddol gan aelodau'r cabinet dros y gwaith a oedd yn cael ei wneud gan swyddogion ymroddedig gweithgar ac eraill yn y cyngor hefyd. Felly fe wn i, yn hanesyddol, mewn achosion o gynghorau â phroblemau eglur o ran eu hadrannau gwasanaethau cymdeithasol, fel y digwyddodd ym Mhowys, fod pwerau gwell ar gyfer monitro wedi cael eu rhoi trwy Arolygiaeth Gofal Cymru. A wnewch chi roi gwybod i ni beth yw eich barn chi ynglŷn â'r trothwy ar gyfer gwneud felly yn yr achos hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr?