Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:51, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Cyfeiriwyd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf at waith craffu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21, a ganfu y bu tanwariant o £526 miliwn, ac o ganlyniad, rhoddwyd £155 miliwn o gyllid a ddyrannwyd i Gymru yn ôl i'r Trysorlys. Rwy’n siŵr y byddech yn dymuno dweud rhywbeth am hynny. Ond yn fwy diweddar, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn yr ychydig wythnosau diwethaf, amcangyfrifodd Trysorlys Cymru fod oddeutu £80 miliwn o gyllid heb ei ddyrannu yng nghyllideb Cymru ar hyn o bryd. Nawr, fe wnaeth y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, wrth-ddweud hynny’n uniongyrchol yn ei chyfraniad yma yr wythnos diwethaf, pan ddywedodd nad oes unrhyw wariant heb ei ddyrannu nac unrhyw danwariant ar hyn o bryd pan ofynnwyd iddi ynglŷn â chyllideb Llywodraeth Cymru a’r ffigur presennol ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru. Felly, a wnewch chi egluro'r sefyllfa y prynhawn yma a rhoi eglurder i ni ynglŷn â'r amcangyfrif presennol o gyllid heb ei ddyrannu a thanwariant yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, fel y saif pethau ar hyn o bryd?