Mercher, 30 Tachwedd 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Dyma ni'n cychwyn ar ein cyfarfod ni heddiw. Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Altaf Hussain.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am ddefnyddio cronfeydd ariannol? OQ58771
2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i effaith datganiad yr hydref ar y gefnogaeth ariannol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru? OQ58788
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar reoli adnoddau Llywodraeth Cymru? OQ58770
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith gwariant ar lety dros dro ar gyllidebau awdurdodau lleol? OQ58781
5. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar wasanaethau llywodraeth leol? OQ58786
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag awdurdodau lleol am ddefnyddio cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol? OQ58793
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar waith byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OQ58773
8. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith datganoli gosod trothwyon treth incwm i Gymru? OQ58797
Y cwestiynau i'r Gweinidog materion gwledig a'r gogledd sydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau dyfodol hyfyw i ffermio? OQ58785
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru? OQ58798
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
3. Pa ystyriaeth y mae pwyllgor sefydlog y Cabinet ar ogledd Cymru wedi'i rhoi i gydweithio ar draws ffiniau drwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy? OQ58772
4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i annog cymunedau i ymgysylltu â ffermio? OQ58787
5. Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran cydweithio â Llywodraeth y DU ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)? OQ58791
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau hirdymor y Llywodraeth i olynu cynllun LEADER? OQ58794
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr achosion o'r ffliw adar presennol ar gynhyrchwyr wyau yng Nghymru? OQ58789
8. Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ychwanegu at y capasiti prosesu bwyd yng Nghymru? OQ58792
Does dim cwestiynau amserol o dan eitem 3.
Eitem 4 sydd nesaf, felly, y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone.
Eitem 5, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE', a dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Peredur Owen Griffiths.
Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Sicrhau Chwarae Teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch...
Eitem 7, dadl ar ddeiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i...
Eitem 8 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig—pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru, a galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Dadl nesaf y Ceidwadwyr Cymreig yw'r un ar fusnesau bach. Dwi'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig yma.
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar eitem 7 a'r ddadl ar y ddeiseb ar warchod mynyddoedd y Cambria drwy eu dynodi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. A dwi'n galw am bleidlais ar y...
Iawn, y ddadl fer—Natasha Asghar.
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia