Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:01, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

A yw'r Gweinidog yn cytuno bod dyraniad Llywodraeth y DU o £1.2 biliwn yn adlewyrchiad o gynllun Llywodraeth Geidwadol i godi'r gwastad yng Nghymru drwy fuddsoddi'n briodol yn ein gwlad, tra bod Llywodraeth Cymru yn gwario miliynau ar gyfres o brosiectau sosialaidd aflwyddiannus, megis perchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar Faes Awyr Caerdydd, perchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar fferm ym Mhowys, a pherchnogaeth aflwyddiannus y wladwriaeth ar wasanaethau trên, tra bo pobl yng ngogledd Cymru yn cael eu hamddifadu o'r cyllid hwn? Onid yw'n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd perchnogaeth ar arian y trethdalwyr a'i wario'n briodol? Ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU fel nad yw fy etholwyr ar eu colled?