Cronfeydd Wrth Gefn Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:15, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gydag arweinwyr fel rhan o'n trafodaethau parhaus ar bwysau a chyllid. Mae pob arweinydd wedi pwysleisio eu bod eisoes yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i reoli eu pwysau presennol a'u bod yn disgwyl y bydd yn rhaid iddynt barhau i wneud hynny y flwyddyn nesaf.