Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn hyn, Lywydd. Wrth roi ateb da a llawn iawn i fy nghwestiwn cynharach, cyfeiriodd y Gweinidog at Aelod arall, Cefin Campbell, mewn perthynas â chyflawni rôl weithredol o fewn y Llywodraeth. Rydym i gyd yn deall y cytundeb cydweithio, ac fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rwy'n llwyr gefnogi'r cytundeb cydweithio. Fodd bynnag, nid oes gan Aelodau yn y Siambr hon gyfle i graffu ar Aelodau Plaid Cymru sy'n ffurfio rhan o hyn, ac ni cheir gyfle i ddeall y rôl sy'n cael ei chwarae. O'r herwydd, cyfyngir ar ein cyfle i graffu ar y cytundeb a'r polisïau sy'n deillio o'r cytundeb hwnnw. Hoffwn ofyn i chi, Lywydd, a wnewch chi adolygu'r sefyllfa hon, oherwydd byddwn yn nodi blwyddyn ers sefydlu'r cytundeb cydweithio yr wythnos hon, i sicrhau bod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn gallu craffu ar bob agwedd o waith y Llywodraeth.