Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Mae'r cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai, a weinyddir gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, 26 y cant yn llai yn 2022-23 nag yn y flwyddyn flaenorol. A chan gofio ein bod mewn cyfnod ofnadwy, o ran y pwysau ar aelwydydd, nid dyma'r amser o gwbl i fod yn torri'r cymorth hanfodol hwnnw. Mewn gwirionedd, mae'r gostyngiad hwnnw'n dilyn gostyngiad o 18 y cant yn 2021-22 o'i gymharu â'r flwyddyn cynt. Cyllid y taliadau disgresiwn at gostau tai yn 2022-23 yw'r swm isaf y mae Cymru wedi'i gael ers dechrau polisi diwygio lles Llywodraeth y DU, ac rwy'n credu bod hynny'n dweud cyfrolau am ba mor heriol yw'r cyfnod hwn yn mynd i fod i bobl ledled Cymru a fydd yn dibynnu ar y cyllid hwn.
A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi darparu'r £6 miliwn ychwanegol y cyfeiriais ato, a hefyd pam ein bod wedi ceisio sicrhau bod cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdodau lleol yno. Gall awdurdodau gynnig mesurau ataliol, megis cynnig gwarant rhent, gallant dalu am ôl-ddyledion rhent fel rhan o becyn gweithredu i gynnal tenantiaeth, a gallant hefyd ychwanegu at y cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai yn lleol, ac rwy'n gwybod bod rhai awdurdodau wedi penderfynu gwneud hynny hefyd. Felly, rydym yn ceisio cefnogi awdurdodau cymaint â phosibl, ond rwy'n credu bod y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn tynnu'n ôl o'r cyllid taliadau disgresiwn at gostau tai yn destun gofid mawr i bob un ohonom.