Costau Byw Cynyddol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:13, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y trafodaethau cyllidebol parhaus sy'n digwydd yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond rwyf am ddweud bod y pwysau ar addysg, fel y disgrifiodd yr Aelod, wedi cael ei ddwyn i sylw Llywodraeth Cymru yn amlwg iawn gan gydweithwyr llywodraeth leol, ac mae fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, bob amser yn cyflwyno achos cadarn iawn dros ysgolion ac addysg hefyd. Felly, nid wyf eisiau mynd yn llawer pellach na hynny ar hyn o bryd. Ond mewn perthynas â chyhoeddi'r gyllideb, yn amlwg fe fyddaf yn ceisio cyflwyno cymaint o wybodaeth ag y gallaf i gyd-Aelodau, ac rwy'n gwybod y bydd awdurdodau lleol eisiau gosod eu cynlluniau gwariant ar gyfer eu cydweithwyr hefyd.