Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:57, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, ein nod yw defnyddio’r holl arian Ewropeaidd sydd wedi dod i Gymru, ac mae hynny, a dweud y gwir, yn un o’r arfau sydd gennym i allu rheoli ein cyllideb o fewn y flwyddyn ariannol—i wneud penderfyniadau ynghylch pryd yn union rydym yn defnyddio'r cyllid Ewropeaidd hwnnw, i'n helpu i reoli'r gyllideb yn gyffredinol. Felly, mae'n arf y gallwn ei ddefnyddio ac rydym yn ei ystyried yn weithredol drwy gydol y flwyddyn. Ond yn sicr, ein bwriad yw defnyddio'r holl gyllid sydd wedi dod i Gymru, wrth gwrs.