Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Yn hollol, ac mae hynny'n rhywbeth roeddem yn pwyso ar Lywodraeth y DU i'w ddarparu cyn datganiad yr hydref a chyn y gyllideb cyn honno, mewn gwirionedd. Ond o ran trafodaethau gyda chwmnïau ynni, mae'r rheini'n tueddu i ddigwydd rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd; hwy fydd yn cael y trafodaethau uniongyrchol gyda'r cwmnïau ynni hynny. Efallai y gallwn ofyn i'r Gweinidogion hynny roi diweddariad i'r Aelodau.