Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch, Weinidog. Ni allaf ond dychmygu pa mor anodd y bydd y penderfyniadau hynny, oherwydd, fel y dywedwch, nid yw’r arian sydd wedi dod o San Steffan, er ei fod yn gynnydd, yn ddigon i fynd i'r afael â'r pwysau chwyddiant ofnadwy y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu ledled Cymru. Weinidog, a wnewch chi roi syniad i ni o’r egwyddorion arweiniol a fydd yn cael eu dilyn wrth benderfynu ble a faint o arian y Llywodraeth sy’n cael ei wario? A wnewch chi addo y byddwch yn sicrhau, pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud, y bydd cynnal iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn flaenoriaeth i bob Gweinidog?