Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar eitem 8, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar bwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, yn erbyn 27. Felly, fel sydd yn ofynnol i mi o dan Reol Sefydlog 6.20, rwy'n defnyddio fy mhleidlais fwrw i bleidleisio yn erbyn y cynnig. Canlyniad y bleidlais felly yw: o blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.