Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 30 Tachwedd 2022.
A gaf fi gadarnhau i'r Aelod, fy mod yn credu i mi nodi'r ffaith iddo gyfeirio at y ffaith nad oedd y Llywodraeth wedi gallu cyflwyno gwelliannau brynhawn dydd Gwener yr wythnos diwethaf i'r ddadl ar yr ymchwiliad COVID? Bu'n destun gohebiaeth rhyngof fi a'r Prif Weinidog, ac rwy'n hapus i gyhoeddi'r ohebiaeth honno fel bod pob Aelod yn ymwybodol o'r rheswm nad oedd y gwelliannau, fel y'u cynigiwyd gan y Llywodraeth, mewn trefn ar gyfer y ddadl honno. FootnoteLink