Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Mae diogelwch ar-lein yn fater cymdeithasol cymhleth. Mae mynd i'r afael ag ef yn galw am ddull amlasiantaethol o weithredu. Mae ein cynllun gweithredu cenedlaethol ar gadernid digidol yn amlinellu'r ymrwymiadau rydym yn eu cyflawni ar draws y Llywodraeth, gyda phartneriaid arbenigol, i wella diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc. Mae dull cydweithredol yn hanfodol er mwyn gwneud cynnydd go iawn ac felly, mae gweithio mewn partneriaeth yn cael lle canolog yn y cynllun gweithredu. Gan adlewyrchu natur sy'n esblygu'n barhaus y byd digidol, mae'r cynllun gweithredu'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol, gan ychwanegu ffrydiau gwaith newydd, yn ogystal â darparu crynodeb o gynnydd y gwaith hyd yma. Mae'r cynllun gweithredu eleni yn nodi dros 70 o gamau gweithredu rydym yn eu cyflawni gyda'n partneriaid i wella darpariaeth ac ymarfer diogelwch ar-lein ledled Cymru, a hoffwn dynnu sylw at rai o'r gweithgareddau allweddol rydym yn parhau i'w datblygu.
Yn gynharach eleni, cefais y fraint o gyhoeddi enillwyr ein cystadleuaeth ffilm Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 'Parcha fi. Fy rhyngrwyd, fy hawliau'. Roedd y ffilmiau'n procio'r meddwl ac roeddent yn pwysleisio grym lleisiau pobl ifanc a'u hawliau i fod yn ddiogel rhag niwed ar-lein. Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar brofiadau pobl ifanc i ddeall y byd ar-lein yn iawn drwy eu llygaid hwy, ac mae eu llais yn ganolog i'n rhaglen ac yn llywio ein gwaith datblygu polisi.
Eleni, rydym wedi sefydlu panel ieuenctid newydd ar gyfer cadernid digidol. Mae'r panel yn dod â phobl ifanc at ei gilydd o bob cwr o Gymru i ddylanwadu ar, ac i lywio ein gwaith yn uniongyrchol er mwyn gwella diogelwch ar-lein. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y panel, ac am ddiolch i'r bobl ifanc am roi eu hamser i gefnogi'r gwaith pwysig hwn.
Gyda chymaint o wybodaeth ar flaenau eu bysedd, gwyddom fod pobl ifanc yn aml yn mynd ar-lein i edrych am gymorth a chyngor. Yn gynharach eleni, lansiwyd 'Problemau a phryderon ar-lein', ardal newydd ar 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb, yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Cafodd y cyngor hwn ei gyd-gynllunio gyda phobl ifanc a'i nod yw eu cefnogi os ydynt yn poeni am broblem ar-lein. Mae'r cyngor newydd hwn yn ehangu cyrhaeddiad 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb, ein siop un stop bwrpasol, sy'n darparu newyddion, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion cadernid digidol. Mae'r ardal allweddol hon wedi parhau i esblygu. Bellach mae'n cynnwys dros 400 o adnoddau i gefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal â'u teuluoedd a chymunedau ysgol. Drwy 'Cadw'n ddiogel ar-lein', mae gan ysgolion fynediad at gynnig helaeth o adnoddau addysgu dwyieithog, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi, ac mae'r rhain yn ymdrin ag ystod o faterion diogelwch ar-lein amserol, gan gynnwys rhannu delweddau noeth, aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ar-lein a chamwybodaeth.
Yn ddiweddar, llwyddais i fynychu lansiad adnoddau a ddatblygwyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi'u targedu at fechgyn, ynghylch peth o'r niwed ar-lein y gellid ei achosi a hefyd, ymwelais ag ysgol yng nghwm Cynon i glywed gan fenywod ifanc yno am y profiadau a gawsant o weithio gyda chwmnïau technoleg i ddarparu arweiniad i'w cyfoedion. Mae cyfoeth o adnoddau'n cael eu cynhyrchu, gan gynnwys gan y bobl ifanc eu hunain.
Mae diogelwch ar-lein yn esblygu'n gyson, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bwysig ein bod yn gyfredol ac yn rhoi gwybodaeth i'n haddysgwyr am y tueddiadau a'r risgiau diweddaraf, a sut i gynorthwyo eu dysgwyr i'w llywio. Am y tro cyntaf, fis Mawrth nesaf, byddwn yn cynnal dwy gynhadledd genedlaethol cadernid digidol mewn addysg. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi sylw i ddiogelwch ar-lein a bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar ysgolion i barhau i yrru datblygiad diogelwch ar-lein mewn addysg. Mae'n hanfodol fod diogelwch ar-lein wedi'i wreiddio'n gadarn o fewn diwylliant diogelu. Ni ddylid ei ystyried yn fater TG neu ddigidol yn unig. Erbyn hyn mae cadernid digidol yn rhan annatod o'n canllawiau diogelu mewn addysg statudol, ac yn gadarn ar agenda'r grŵp cenedlaethol diogelu mewn addysg.
Eleni, mae fy swyddogion yn gweithio mewn partneriaeth ag Estyn, yn cyfarfod ag awdurdodau lleol a phenaethiaid ysgolion i archwilio sut maent wedi gwreiddio diogelwch ar-lein yn eu polisi, darpariaeth ac ymarfer diogelu. Er bod addysg yn chwarae rôl bwysig, mae llawer o'r problemau diogelwch ar-lein y mae ysgolion yn adrodd yn eu cylch yn digwydd y tu hwnt i gatiau'r ysgol a thu allan i oriau ysgol. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â rhieni a gofalwyr, ac mae'r cynllun gweithredu'n cynnwys sawl cam gweithredu i roi cefnogaeth a chyngor i deuluoedd ar ystod o faterion diogelwch ar-lein. Gan gydnabod bod llawer o broblemau ar-lein yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, datblygodd Llywodraeth Cymru 'Bydd Wybodus'. Mae'r gyfres yn rhoi gwybodaeth allweddol i rieni a gofalwyr am y cyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau sy'n boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc. Rydym yn parhau i adeiladu ar y gyfres hon, yn ogystal ag archwilio ffyrdd eraill o gefnogi rhieni.
Ar draws y byd, mae yna ddadl gref ynglŷn â'r rôl y dylai deddfwriaeth ei chwarae wrth wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel, a gwelwyd hynny yn y ddadl heddiw. Mae'n hanfodol na ddylai'r cyfrifoldeb fod ar blant i amddiffyn eu hunain rhag niwed ar-lein. Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu ei chynlluniau drwy gyflwyno'r Bil Diogelwch Ar-lein hirddisgwyliedig yn gynharach eleni. Rwy'n croesawu uchelgais y Bil mewn perthynas â'r amddiffyniad gwell i blant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU nawr yn blaenoriaethu'r gwaith hwn, ac rwy'n cefnogi'r galwadau a wnaed gan lawer o'n partneriaid i fwrw ymlaen â'r Bil heb unrhyw oedi pellach, ac rwy'n adleisio'r pwynt a wnaeth Heledd Fychan yn y ddadl.
Roeddwn yn falch o weld y gwelliant diweddar a gyflwynwyd yn amlinellu'r bwriad i droseddoli cynorthwyo neu annog hunan-niweidio ar-lein, ac fe dynnodd Natasha Asghar sylw penodol at hyn. Ni ddylai ymddygiad ffiaidd o'r fath gael unrhyw le yn ein cymdeithas, ac rwy'n falch hefyd o weld y bydd ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn cael ei ychwanegu at y rhestr o droseddau blaenoriaethol yn y Bil.
Er bod Llywodraeth y DU yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng rhyddid mynegiant a diogelwch, mae'n hanfodol nad yw newidiadau a wneir i'r Bil yn digwydd ar draul diogelwch plant ac nad ydynt yn gwanhau'r effaith y gall y ddeddfwriaeth hon ei chael. Rwy'n eu hannog i ymrwymo i wneud y mwyaf o'r amddiffyniad y mae'r Bil yn ei roi i blant.
Rhaid herio'r cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein yn y ffordd y clywsom yn y ddadl heddiw, er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â chynnwys niweidiol ar eu platfformau. Yn y pen draw, bydd Ofcom yn chwarae rhan allweddol wrth iddynt ddatblygu codau ymarfer cadarn i ddwyn platfformau ar-lein i gyfrif. Edrychwn ymlaen at barhau i ymgysylltu â hwy i wneud cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein yn lleoedd mwy diogel a gwell i bawb.
Gadewch imi fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, mae gan ein plant a'n pobl ifanc hawl i fod yn ddiogel ar-lein. Mae ganddynt hawl i fod yn rhydd o fwlio ar-lein, mae ganddynt hawl i fod yn rhydd o gasineb a thrais ar-lein, a'r hawl i fod yn rhydd o gam-drin ac aflonyddu ar-lein. Mae Llywodraeth Cymru'n chwarae ei rhan i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu grymuso i fod yn ddinasyddion cyfrifol, moesegol a gwybodus. Fy ymrwymiad cadarn yw gyrru ein cenhadaeth i sicrhau bod eu hawliau i fod yn ddiogel yn cael eu gwireddu'n llawn, ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu heb oedi pellach.