11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 6:50, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'r Bil Diogelwch Ar-lein, sydd ar hyn o bryd yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin, yn cyflawni ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i wneud y DU y lle mwyaf diogel yn y byd i fod ar-lein, gan amddiffyn rhyddid mynegiant ar yr un pryd. Mae'r Bil wedi cael ei gryfhau a'i egluro ers iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf ddrafft ym mis Mai 2021, gan adlewyrchu canlyniad craffu seneddol helaeth. Felly, gadewch imi ddweud wrthych chi i gyd heddiw beth y mae'r Bil yn ei wneud. Mae'r Bil yn cyflwyno rheolau newydd i gwmnïau sy'n dangos cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, sydd yn y pen draw yn caniatáu i ddefnyddwyr bostio eu cynnwys eu hunain ar-lein neu ryngweithio â'i gilydd, ac ar gyfer peiriannau chwilio, a fydd â dyletswyddau wedi'u teilwra i ganolbwyntio ar gyflwyno llai o ganlyniadau chwilio niweidiol i'r defnyddiwr. Bydd angen i'r platfformau sy'n methu gwarchod pobl ateb i'r rheoleiddiwr a gallent wynebu dirwyon o hyd at 10 y cant o'u refeniw, neu gael eu hatal yn yr achosion mwyaf difrifol.

Roedd yn wych clywed am beth o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Twitter a TikTok i gadw pobl yn ddiogel ar-lein pan gyfarfûm â'r cewri cyfryngau cymdeithasol yn eu pencadlys yn ddiweddar. Mae Twitter, er enghraifft, yn caniatáu i ddefnyddwyr fudo rhai geiriau, ymadroddion, emojis a hashnodau, a hefyd i reoli pwy sy'n cael ateb trydariadau. Yn gynharach eleni, lansiodd y cwmni arbrawf Twitter Circle. Mae defnyddwyr yn dewis pwy sydd yn eu cylch Twitter a dim ond yr unigolion rydych chi wedi'u hychwanegu sy'n gallu ateb a rhyngweithio â'r trydariadau a rannwch. Dyma rai o'r arfau diogelwch y gall defnyddwyr Twitter eu cyrchu. Mae cwmnïau fel Twitter yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â diogelwch ar-lein, ac maent yn parhau i fod yn ymrwymedig i fuddsoddi yn y broses o safoni cynnwys anghyfreithlon neu niweidiol wrth iddynt ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy'n ddiogel ac yn cyfleu gwybodaeth i bawb. O fis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2021, tynnodd Twitter 4 miliwn o drydariadau a oedd yn torri eu rheolau, ac o'r trydariadau a dynnwyd, cafodd 71 y cant ohonynt lai na 100 argraff cyn eu tynnu, gyda 21 y cant ychwanegol wedi cael rhwng 100 a 1,000 argraff. Dim ond 8 y cant o'r trydariadau a dynnwyd a gafodd fwy na 1,000 argraff.

I'r rhai sy'n hoffi rhifau ac ystadegau, fel fi, roedd cyfanswm yr argraffiadau o'r trydariadau hyn sy'n torri rheolau yn llai na 0.01 y cant o'r holl argraffiadau ar gyfer pob trydariad yn ystod y cyfnod hwn. Bydd angen i bob platfform fynd i'r afael a chael gwared ar ddeunydd anghyfreithlon ar-lein, yn enwedig deunydd sy'n ymwneud â therfysgaeth a chamfanteisio ar blant a cham-drin plant yn rhywiol. Bydd gan blatfformau sy'n debygol o gael eu cyrchu gan blant ddyletswydd enfawr i amddiffyn plant ifanc sy'n ddefnyddio eu gwasanaethau rhag deunydd cyfreithiol ond niweidiol fel cynnwys hunan-niweidio'n ymwneud ag anhwylderau bwyta. Mae TikTok wedi mabwysiadu agwedd 'diogelwch drwy gynllunio' i atal niwed ar-lein, sydd, rhaid imi gyfaddef, yn wirioneddol gymeradwy. Mae'r cwmni wedi gwneud nifer o newidiadau ar gyfer defnyddwyr o dan 18 oed, megis dylunio ei osodiadau i fod yn breifat yn ddiofyn. Er enghraifft, mae defnyddwyr rhwng 13 a 15 oed yn cael cyfrifon preifat yn ddiofyn, sy'n golygu mai dim ond pobl y maent yn eu cymeradwyo fel dilynwyr sy'n cael gwylio eu fideos. Mae gan TikTok nodweddion oedran priodol hefyd, sy'n cyfyngu ar yr hyn y gellir ei anfon drwy negeseuon preifat, mae ganddo archwiliadau a sicrwydd oedran. Mae hefyd yn caniatáu i rieni a gofalwyr gysylltu eu cyfrif TikTok ag un eu plentyn arddegol ac addasu gwahanol osodiadau diogelwch.

Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, mae'n werth nodi bod TikTok wedi tynnu mwy na 113 miliwn o fideos—tua 1 y cant o'r cynnwys a uwchlwythwyd i TikTok—am dorri ei ganllawiau cymunedol. O'r fideos hyn, mae'n werth sôn bod 95.9 y cant o'r cynnwys wedi'i dynnu'n rhagweithiol gan TikTok cyn i ddefnyddiwr adrodd yn ei gylch, tynnwyd 90.5 y cant o'r cynnwys cyn iddo gael ei weld un waith, a thynnwyd 93.7 y cant o'r cynnwys o fewn 24 awr.

Yn ogystal, bydd gofyn i ddarparwyr sy'n cyhoeddi neu'n gosod cynnwys pornograffig ar eu gwasanaethau atal plant rhag cael mynediad at y cynnwys hwnnw. Bydd yn rhaid i'r platfformau risg uchaf fynd drwy gategorïau a enwir o ddeunydd cyfreithiol ond niweidiol a welir gan oedolion sy'n debygol o gynnwys materion fel cam-drin, aflonyddu neu gysylltiad â chynnwys sy'n annog hunan-niweidio neu anhwylderau bwyta. Bydd angen iddynt wneud yn glir yn eu telerau ac amodau beth sydd a beth nad yw'n dderbyniol ar eu safle, a gorfodi hyn, a'i orfodi'n briodol. Bydd dyletswydd ar y gwasanaethau hyn i gyflwyno offer grymuso defnyddwyr, gan roi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr sy'n oedolion dros bwy maent yn rhyngweithio â hwy a'r cynnwys cyfreithiol a welant, yn ogystal â'r opsiwn i wirio pwy ydynt.

Rydym i gyd yn caru ac yn gwerthfawrogi rhyddid mynegiant, a bydd yn cael ei ddiogelu, oherwydd nid yw'r deddfau hyn yn ymwneud â gosod rheoliadau gormodol na dileu cynnwys gan wladwriaeth, ond yn hytrach maent yn sicrhau bod gan gwmnïau systemau a phrosesau ar waith i sicrhau diogelwch defnyddwyr. I unrhyw un yma sy'n credu bod y Bil yn wan neu wedi'i lastwreiddio, gadewch imi eich sicrhau ei fod yn cynnig tarian driphlyg o amddiffyniad, felly yn sicr nid yw'n wannach mewn unrhyw ystyr. Mae'r darian driphlyg yn ei gwneud yn ofynnol i blatfformau, yn gyntaf, i ddileu cynnwys anghyfreithlon, yn ail, i ddileu deunydd sy'n torri eu telerau ac amodau, gan roi mesurau rheoli i ddefnyddwyr i'w helpu i osgoi gweld rhai mathau o gynnwys sydd i'w nodi gan y Bil, a hefyd dileu deunydd nad yw'n cydymffurfio â'u telerau ac amodau. Gallai hyn hefyd gynnwys deunydd sy'n hyrwyddo anhwylderau bwyta neu'n annog casineb ar sail hil, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol neu hyd yn oed ailbennu rhywedd. Ychwanegodd prif weithredwr y Ganolfan ar gyfer Gwrthsefyll Casineb Digidol, Imran Ahmed, ei fod yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth

'wedi cryfhau'r gyfraith yn erbyn annog hunan-niweidio a dosbarthu delweddau personol heb ganiatâd'.

Bydd llawer o'r gwaith ar orfodi'r gyfraith newydd yn digwydd gan y rheoleiddiwr cyfathrebu a'r cyfryngau, Ofcom, y clywn amdano'n aml mewn perthynas â theledu a darpariaeth ar-lein arall, a bydd yn gallu dirwyo cwmnïau—fel y crybwyllais yn gynharach—hyd at 10 y cant o'u refeniw byd-eang, sy'n cyrraedd y biliynau. Rhaid ymgynghori â chomisiynydd y dioddefwyr, y comisiynydd cam-drin domestig a'r comisiynydd plant nawr ynghylch y rheolau wrth lunio'r codau y mae'n rhaid i gwmnïau technoleg eu dilyn wrth symud ymlaen. Bydd mesurau cymesur yn osgoi beichiau diangen ar fusnes bach a risg isel. Yn olaf, bydd angen i'r platfformau mwyaf roi systemau a phrosesau cymesur ar waith er mwyn atal hysbysebion twyllodrus rhag cael eu cyhoeddi neu eu dangos ar eu gwasanaeth. Yn y pen draw, bydd hyn yn mynd i'r afael â'r hysbysebion sgam niweidiol sydd wedi bod yn cael effaith ddinistriol ar eu dioddefwyr, ni waeth beth fo'u hoedran a'u cefndir.

Rwy'n gwybod bod pryderon wedi'u codi am oedi canfyddedig i gynnydd y Bil hwn drwy'r Senedd, ac rwy'n croesawu'r sicrwydd a roddwyd gan lefarydd yn yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae diogelu plant a chael gwared ar weithgaredd anghyfreithlon ar-lein yn brif flaenoriaeth i'r llywodraeth a byddwn yn dod â'r Bil Diogelwch Ar-lein yn ôl i'r Senedd cyn gynted â phosibl.'

Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Bil yn pasio'r cyfnodau sy'n weddill cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Pan gyflawnir hyn, dylem ni yn y Senedd ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y drefn reoleiddio newydd yn cael ei gweithredu mewn ffordd sy'n atal, diogelu, cefnogi, a hyrwyddo hawliau plant yn y byd ar-lein yma yng Nghymru. Fe fydd pasio'r ddeddfwriaeth yn garreg filltir arwyddocaol. Fodd bynnag, gadewch inni fod yn realistig—ni all unrhyw Fil diogelwch ar-lein gael gwared ar bob bygythiad a phroblem o fywydau plant. Bum mlynedd ar ôl cyflwyno cynllun gweithredu cyntaf Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch ar-lein, mae'n bryd inni edrych, pwyso a mesur a diffinio rôl Cymru yn y drefn reoleiddio newydd. Mae'n hollbwysig fod lleisiau plant yn ganolog wrth siapio rôl Cymru ar ôl deddfu. Dylid gwneud pob ymdrech i gynnwys plant a phobl ifanc, i glywed eu pryderon, ond hefyd i ddod o hyd i atebion ar gyfer sut y gallwn wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel iddynt i gyd.

Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad i ddiogelwch plant ar-lein er mwyn archwilio beth yn union yw'r bylchau sy'n weddill er mwyn gwireddu hawl plant i fod yn fwy diogel ar-lein. Fe allai ac fe ddylai meysydd i'r pwyllgor hwn eu hystyried gynnwys, yn gyntaf, sut rydym yn sicrhau bod y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb newydd yn cefnogi ac yn gwireddu hawl plant a phobl ifanc i fod yn ddiogel a chael eu hamddiffyn ar-lein. Yn ail, dylai edrych ar ba hyfforddiant ychwanegol y dylid ei gyflwyno ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Yn drydydd, dylai hefyd graffu ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cadernid digidol mewn addysg, y cynllun gweithredu ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion sydd ar y gweill ac unrhyw gynllun i olynu'r cynllun gweithredu ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn siarad â'i gilydd, yn rhoi gwleidyddiaeth o'r neilltu ac yn cyflwyno dull sy'n amddiffyn plant a phobl ifanc, ac yn eu galluogi i godi llais, i ofyn am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, ac i'w chael, gan fod amddiffyn ieuenctid, unwaith eto, yn hollbwysig i ni. Ac yn olaf, gallai ystyried peryglon a digonolrwydd ymatebion yn ymwneud â chyfathrebu ar-lein drwy'r Gymraeg. Byddai archwilio anghenion a phrofiadau plant yn hyn o beth yn sicrhau bod pob plentyn yn cael ei amddiffyn yn gydradd.

Ddirprwy Lywydd, ni ddylai Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU fod yn ben draw ynddo'i hun ond yn hytrach, yn ffordd o gyrraedd y pen draw. Rhaid i Lywodraeth Cymru adeiladu ar y Bil i fynd i'r afael â'r hyn sy'n gyrru niwed ar-lein. Rhaid i'r cyfrifoldeb beidio â bod ar y plentyn yn unig i fod yn wydn ac i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein; rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei dyletswydd i blant Cymru o dan CCUHP a sicrhau ei bod yn ymateb i'r lefelau digynsail o feithrin perthynas amhriodol a cham-drin plant yn rhywiol a welwn ar-lein bob dydd ar hyn o bryd. Diolch.