Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Yn amlwg, rydym wedi gweld nifer digynsail o achosion o ffliw adar. Nid ydym wedi cael unrhyw seibiant o gwbl dros yr haf, cyfnod lle nad ydym yn gweld unrhyw glystyrau o achosion o gwbl fel arfer. Mae wedi bod gyda ni yn barhaus dros y tair blynedd diwethaf. Rydym yn dechrau cyfri'r achosion newydd o 1 Hydref bob blwyddyn, ac ers 1 Hydref 2022, rydym eisoes wedi cael tri chlwstwr o achosion yma yng Nghymru, felly mae'n gyfnod anodd iawn i'n cynhyrchwyr dofednod ar hyn o bryd, yn enwedig, oherwydd gwyddom fod llawer o ffermwyr wedi arallgyfeirio i ffermio dofednod. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn ledled y DU. Ddydd Llun nesaf, byddaf yn cael fy nghyfarfod grŵp rhyngweinidogol rheolaidd gyda fy swyddogion cyfatebol ym mhob rhan o'r DU. Rwyf wedi gofyn i hyn fod yn eitem ar yr agenda, oherwydd, yn amlwg, mae angen inni weithio fel pedair gwlad i gefnogi ein ffermwyr dofednod.