Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch i chi, ac fel y dywedais yn fy ateb cynharach, rydym yn sefydlu gweithgor tir comin ac rwyf am i'r gweithgor hwnnw archwilio pa gymorth a chyngor penodol y gallai fod eu hangen, yn ogystal â pha hyblygrwydd y gallai fod angen inni ei gynnig i gyfrif am y cymhlethdodau sy'n cael eu hachosi gan dir comin.
Fel y byddwch yn gwybod, yng nghynigion amlinellol y cynllun ffermio cynaliadwy, mae gennym dair haen: mae gennym yr haen gyffredinol, yr hen ddewisol a'r haen gydweithredol. Ac yn sicr, yn y trafodaethau a gefais gyda ffermwyr tir comin, rwy'n meddwl ei bod hi'n deg dweud nad yw'r gweithredoedd cyffredinol a'r gweithredoedd dewisol, fel y'u disgrifir yn y ddogfen amlinellol ar hyn o bryd, yn berthnasol i dir comin yn yr un ffordd ag y maent i ffermydd eraill. Felly gallai fod angen inni ganolbwyntio ar y lefel gydweithredol ar gyfer ein ffermwyr tir comin. Wyddoch chi, mae tir comin yn unigryw iawn, ac felly rwy'n credu bod angen dull sydd wedi'i deilwra'n llawer gwell.