Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch. Aeth hynny â fi'n ôl i drafodaethau pysgota cyngor mis Rhagfyr mewn bywyd blaenorol. Yn sicr, nid yw'r ffigurau hynny gennyf wrth law, ond fe fyddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod mewn perthynas â hynny. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn cael trafodaethau ar hyn o bryd ynglŷn â nifer y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth symud ymlaen, ond byddwn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod am y cyswllt economaidd.