Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:54, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae hynny'n wych i'w glywed oherwydd mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater allweddol wrth gwrs—y mater pwysicaf mae'n debyg—i'w ystyried ar sail drawsffiniol yn ardal Mersi a'r Ddyfrdwy. Y penwythnos diwethaf, fe aeth Carolyn Thomas a minnau i Gaer. Fe gyfarfuom â ffigyrau allweddol o dros y ffin yn Lloegr, gan gynnwys y meiri metro Steve Rotherham ac Andy Burnham, yn ogystal â Samantha Dixon, ac fe fuom yn siarad am yr angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus wrth gwrs, yn enwedig gwasanaethau bws ar sail trawsffiniol. Fel Gweinidog gogledd Cymru, a fyddech yn cytuno i gynnull uwchgynhadledd ar gyfer gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr er mwyn canolbwyntio ar drafnidiaeth a'r manteision economaidd posibl o gydweithio'n drawsffiniol yn yr ardal hon, sydd â chyfraniad mor gryf i'w wneud i economi Cymru a'r DU? Ac a fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried gwelliannau pwysig i'r seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys gwelliannau i brif reilffordd Wrecsam-Bidston?