Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch. O ganlyniad i’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei hymrwymiad i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid yr UE, mae Cymru oddeutu £1.1 biliwn ar ei cholled. Fodd bynnag, fy mwriad yw parhau i gefnogi datblygu lleol dan arweiniad y gymuned drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru.