Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch am hynny, Weinidog. Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg yn bwysig fod y gymuned ehangach yn deall ac yn teimlo cysylltiad â ffermio os ydym yn mynd i gael y math o gefnogaeth boblogaidd i'n polisïau a'r sector ffermio yr hoffem ei gweld. Mae'n ymwneud â deall yn well sut mae ein ffermydd yn gweithio, beth sy'n digwydd ar y tir a sut y caiff ein bwyd ei gynhyrchu. Rwy'n credu bod y Cerddwyr yn gwneud gwaith da, Weinidog, ar gysylltu cymunedau â thirfeddianwyr/ffermwyr drwy eu menter Llwybrau i Lesiant, sydd, drwy weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr, yn cynllunio llwybrau ac yna'n rhoi hyfforddiant ac offer i'r gymuned allu gwella natur a gwella mynediad i'r tir hwnnw. Rwy'n gwybod bod Maendy yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd yn un ardal sy'n rhan o'r prosiect hwn, Weinidog, a tybed a fyddech chi'n gweld y cynllun ffermio cynaliadwy fel ffordd o barhau a chryfhau'r gwaith hwn, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, fel ein bod yn ei wneud ar y sail gymunedol ehangach y mae'r Cerddwyr yn ei datblygu, efallai, yn ogystal â chysylltu'r sector addysgol â ffermydd a ffermio.