Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch. Rwyf wedi cael cryn dipyn o drafodaethau, yn sicr yn ystod sioeau’r haf. Roedd gan Gwartheg ar Daith gornel wych yn sioe sir Benfro, lle roedd ganddynt lif cyson o blant ysgol yn mynychu, lle roeddent yn adrodd hanes y daten, sut y dechreuodd y daten, gan fynd drwy fywyd taten a sut y mae'n cyrraedd ein platiau ar wahanol ffurfiau. Mae'r mathau hynny o bethau'n wirioneddol bwysig. Ni fyddwn yn dweud ei fod yn ymwneud â grwpiau penodol o blant; roedd yn ymwneud â phlant a phobl ifanc yn gyffredinol, ond roeddwn yn falch iawn o gefnogi hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda’r Gweinidog addysg mewn perthynas â hynny, ac fel y dywedaf, gyda’r ffermwyr eu hunain, gan ei bod yn ddiddorol iawn gweld cymaint o ffermwyr yn annog ymweliadau gan eu hysgolion lleol. Credaf ei fod yn rhywbeth y byddwn yn falch iawn o barhau i'w gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallaf.