– Senedd Cymru am 3:16 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Eitem 4 sydd nesaf, felly, y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf gan Jenny Rathbone.
Mae bwyty The Clink yng Nghaerdydd wedi gweithredu ers dros 10 mlynedd o adeilad sydd wedi'i gysylltu â charchar Caerdydd. Mae'n un o bedwar bwyty a weithredir gan The Clink Charity—mae'r lleill yng ngharchardai Brixton, High Down a Styal. Mae cegin addysgu a bwyty Caerdydd y tu allan i furiau’r carchar, felly dim ond carcharorion categori C nad ystyrir eu bod yn debygol o ddianc y gellir eu recriwtio. Nid oes unrhyw garcharorion categori C yng ngharchar Caerdydd, felly mae’r holl ddysgwyr yn cael eu recriwtio o garchar Prescoed ym Mrynbuga.
Mae wedi rhoi gobaith ar y fwydlen i bron i 3,000 o ddysgwyr, sydd wedi graddio gyda chymwysterau City & Guilds mewn gweini bwyd, diogelwch bwyd, paratoi bwyd a choginio. Mae'r rhan fwyaf o raddedigion The Clink yn camu ymlaen i gyflogaeth amser llawn, ac nid yw'n syndod eu bod ddwy ran o dair yn llai tebygol o aildroseddu a mynd yn ôl i'r carchar na charcharorion eraill. Mae'n rhaglen adsefydlu sy'n gweithio.
Cyn COVID, enillodd Clink Caerdydd y wobr uchaf un am ei fwyd, ochr yn ochr â chyrchfannau bwyd enwog fel Le Manoir aux Quat'Saisons. Beth sydd ddim i'w hoffi am y stori lwyddiant hon? Yr wythnos diwethaf, yn anffodus, bûm mewn cinio ffarwelio yn The Clink. Roedd yn ddathliad ac yn wylnos. Cyfarfûm â graddedigion, hyfforddwyr a chyflogwyr a oedd wedi darparu lleoedd hyfforddi a chyflogaeth. Mae angen i CEM Caerdydd esbonio pam y gwnaethant benderfynu peidio ag adnewyddu les yr elusen hynod lwyddiannus hon. Bydd The Clink yn cau ar 16 Rhagfyr.
Ar 25 Tachwedd, dathlodd The Mousetrap 70 mlynedd ers agor yn theatr yr Ambassador. Ers blynyddoedd lawer, mae campwaith theatrig Agatha Christie wedi dal record y byd am y ddrama lwyfan sydd wedi rhedeg hiraf. Mae wedi cael ei pherfformio bron i 29,000 o weithiau ar lwyfan yn Llundain ac wedi’i gweld gan dros 10 miliwn o bobl. Arweiniodd y West End allan o'r cyfyngiadau symud; y sioe gyntaf i ailagor yn ei chartref presennol yn theatr St Martin.
Rhoddwyd breindaliadau o'r ddrama gan frenhines y nofelau ditectif i'w hŵyr, Mathew Pritchard. Ym 1995, sefydlodd Mathew ymddiriedolaeth elusennol Colwinston, a ariennir yn bennaf gan y breindaliadau hynny, i gefnogi grwpiau celfyddydol. Bob blwyddyn, mae'r ymddiriedolaeth yn dosbarthu cannoedd o filoedd o bunnoedd, gyda sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn derbyn oddeutu 80 y cant o'r holl grantiau. Mae'r ymddiriedolaeth wedi cefnogi Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Opera Cenedlaethol Cymru, y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, a phrifysgolion Cymru. Mae hefyd wedi cefnogi mwy o sefydliadau a phrosiectau lleol, yn enwedig y rheini sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc neu sy'n gysylltiedig â gwella mynediad at y celfyddydau, fel Plant y Cymoedd. Bydd dathliadau pen-blwydd The Mousetrap yn 70 oed yn cynnwys ei ymddangosiad cyntaf ar Broadway a thaith o amgylch y DU, gan gynnwys perfformiadau yng Nghaerdydd ac Abertawe, yn ogystal â gwaddol o barhau i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru. Ond cofiwch gadw'r gyfrinach dan glo.
Gyda chwaraewyr, staff a chefnogwyr tîm pêl-droed dynion Cymru yn paratoi i adael Qatar i ddychwelyd adref, roeddwn eisiau cymryd y cyfle heddiw i gyfleu ein diolch i bob un ohonynt, ynghyd â’r Wal Goch oedd yn cefnogi yma yng Nghymru. Er bod ein siwrnai wedi dod i ben, a bod yna siom yn naturiol, mae yna gymaint hefyd i’w ddathlu, a dyna'r hoffwn adlewyrchu arno heddiw.
Roedd cyrraedd cwpan y byd am y tro cyntaf ers 1958 yn gamp aruthrol, ac yn destun balchder i’r genedl gyfan. Dyma’r tro cyntaf erioed i nifer fawr ohonom weld ein tîm cenedlaethol yn y gystadleuaeth, ac mae’r tîm wedi llwyddo i ysgogi cefnogwyr o bob oed a dangos i’r byd bod y wlad fach hon rydyn ni’n ei charu 'yma o hyd'.
Ar adeg sydd mor anodd i gynifer o bobl yn sgil COVID a rŵan yr argyfwng costau byw, onid ydy hi wedi bod yn wych gallu dathlu ein cenedl a gweld mor o goch a hetiau bwced ledled y wlad ac ar ein sgriniau teledu? Dwi’n siŵr nad fi oedd yr unig un i gael dagrau yn ei llygaid yn gwylio ein gêm gyntaf yn erbyn yr Unol Daleithiau ar y teledu a chlywed ein hanthem yn atseinio drwy’r stadiwm a sylweddoli mai dyma’r tro cyntaf erioed iddi gael ei chlywed gan gynifer o bobl.
A rhaid talu teyrnged arbennig i’r ffordd mae Cymdeithas Pêl-Droed Cymru, o dan arweiniad Noel Mooney a hefyd, wrth gwrs, Ian Gwyn Hughes, wedi sicrhau bod Cymru, nid dim ond y gymdeithas, wedi elwa o’r cyfle anhygoel hwn, gan adeiladu ar y gwaith gwych mae’r gymdeithas wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd bellach i foderneiddio a chydweithio â’r Wal Goch, a sicrhau bod pêl-droed yn perthyn i bawb yng Nghymru, a bod y gair 'Cymru' yn perthyn i bawb hefyd, pa un a’ch bod chi'n siarad Cymraeg neu beidio.
Pinacl y gwaith hwn oedd gweld ein hanes, ein hiaith a’n gwerthoedd yn ganolog i’r holl ymgyrch cwpan y byd, ac ni wnaf byth anghofio tra byddaf fod yn stadiwm Dinas Caerdydd pan wnaethom sicrhau ein lle yng nghwpan y byd a gweld yr holl dîm, gyda Dafydd Iwan yn eu canol, yn morio canu 'Yma o Hyd', a hyd yn oed ambell i aelod o’r blaid Dorïaidd yn canu ‘Er gwaetha’r hen Fagi a’i chriw'—peidiwch â phoeni, wnaf i ddim eich enwi heddiw. Fel dywedodd Dafydd Iwan wrth gael ei gyfweld yn Qatar, beth bynnag y canlyniad yn y gystadleuaeth, heb os, mae Cymru wedi ennill, ac fel dywedodd Gareth Bale wrth gael ei holi neithiwr wrth edrych tuag at yr Ewros:
'Fe awn ni eto ym mis Mawrth.'
Gallant fod yn sicr, fel gall y tîm merched hefyd, beth bynnag fo unrhyw ganlyniad yn y dyfodol, bydd y Wal Goch yno i ddathlu a chydymdeimlo fel y mae wedi bod ar hyd y siwrnai hon. Gyda’n gilydd yn gryfach. Diolch, tîm Cymru. [Cymeradwyaeth.]
Ac yn ysbryd gemau pêl-droed 90 munud nad ydynt byth o fewn y 90 munud y dyddiau hyn, fe wnes i ganiatáu i'r datganiad 90 eiliad hwnnw fynd y tu hwnt i'r 90 eiliad. [Chwerthin.] Ond nid yw hynny i’w ailadrodd.
Diolch i Heledd am adlewyrchu ein teimladau ni i gyd wrth feddwl am ein tîm pêl-droed a'r cefnogwyr, a phawb sydd wedi cynrychioli Cymru mor dda.