Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Mae’r trefniadau ariannu newydd a sefydlwyd ers i’r DU adael yr UE yn cynrychioli newid seismig yn y ffordd y caiff arian ei ddyrannu i Gymru a rôl Llywodraethau Cymru a’r DU yn y broses honno. Ein canfyddiad pennaf oedd bod gweithrediad llwyddiannus y cronfeydd newydd hyn yng Nghymru yn cael ei beryglu gan y diffyg ymgysylltu rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU. Ni ddylai darpariaeth cyllid o dan y trefniadau hyn ymwneud â rhannu arian ar draws y DU yn unig; mae angen iddo hefyd ymwneud â rhannu syniadau a chyfrifoldebau os yw am fod yn ddull partneriaeth gwirioneddol.
Gwnaethom 20 o argymhellion yn ein hadroddiad, sy’n cynnwys argymhellion a anelwyd at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau am ddarparu ymateb ysgrifenedig i’n hargymhellion. Rydym yn sylweddoli nad yw Llywodraeth y DU yn atebol i’r Senedd. Fodd bynnag, er mwyn darparu cyllid yn lle cyllid yr UE yn llwyddiannus, bydd angen cydweithrediad y ddwy Lywodraeth, ac felly rydym yn ddiolchgar fod Llywodraeth y DU wedi bod yn rhan o’r broses graffu. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi am eu hymateb ar y cyd i’n hadroddiad ac am dderbyn yr holl argymhellion sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru.
O ystyried yr amser heddiw, rwyf am sôn am ein prif bryderon a chanfyddiadau. Dechreuaf gyda lefel y cyllid ar gyfer Cymru. Pan ddechreuasom yr ymchwiliad hwn, un ystyriaeth allweddol i ni oedd sut y mae’r cyllid newydd a gynigiwyd ar gyfer Cymru yn cymharu â’r cyllid roeddem yn ei gael pan oedd y DU yn aelod o’r UE. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod £1.1 biliwn wedi'i golli yng Nghymru o ran cyllid yn lle cyllid yr UE. Dywedodd Llywodraeth y DU wrthym y byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cynyddu wrth i weddill cyllid yr UE ddod i ben. Dywed nad oedd darparu'r ddau beth yn rhywbeth a addawyd erioed. Nid yw wedi bod yn bosibl cadarnhau’r honiadau cyferbyniol hyn, gan ei bod yn amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried sut y mae’r cyllid newydd a gynigir i Gymru yn cymharu â’r cyllid a dderbyniwyd pan oeddem yn yr UE yn yr un modd. Felly, nid oeddem yn gallu llunio barn ynglŷn ag a yw Cymru i fod i gael mwy, llai neu’r un lefel.
Mae datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn ychwanegu at ansicrwydd ynghylch dyfodol y cronfeydd hyn a’u gwerth. Er ein bod yn deall bod angen archwilio’r gwahanol safbwyntiau ynghylch arian newydd yn ystod ein hymchwiliad, fe wnaethom dreulio llawer o amser yn dadansoddi egwyddorion sylfaenol dadl pob Llywodraeth mewn perthynas â lefel cyllid yr UE. Cawsom dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod y cyllid a gyhoeddwyd hyd yn hyn gan Lywodraeth y DU yn llai na’r hyn y byddai Cymru wedi’i gael pe baem wedi aros yn yr UE, er mai amcangyfrif yn unig yw unrhyw gyllid gan yr UE yn y dyfodol, ac felly ceir lefel o ansicrwydd ynghylch y gwerth hwnnw.
Yn ystod yr ymchwiliad, rydym wedi gweld gwybodaeth fanylach yn cael ei chyhoeddi gan y ddwy Lywodraeth, ond nid yw’n ddefnyddiol i Lywodraethau anghytuno fel y gwnaethant, ac i beidio â chyhoeddi manylion eu safbwynt yn brydlon ac yn llawn. Mae’n siomedig fod lefel yr anghytuno rhwng y ddwy Lywodraeth yn parhau. Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod datganiad yr hydref y DU yn golygu bod gwerth cyffredinol y gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer y DU wedi gostwng £400 miliwn i £2.2 biliwn erbyn diwedd 2024-25. Fodd bynnag, ddoe ddiwethaf, cawsom ohebiaeth gan Weinidog ffyniant bro'r DU yn nodi bod hyn yn anghywir. Dyma’r union fath o anghytuno y credwn fod angen ei osgoi os yw’r cronfeydd hyn i lwyddo. Mae fy rhagflaenydd eisoes wedi ysgrifennu at y ddwy Lywodraeth, gan dynnu sylw at bwysigrwydd tryloywder wrth gyfrifo cyllid. Mae'n gwneud ein gwaith o graffu'n effeithiol hyd yn oed yn anos pan geir anghytuno fel hyn ynghylch lefelau cyllid.