5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 4:05, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad arall, gennyf fi? Rwy'n deall bod cais ariannol ffyniant bro ar gyfer seilwaith rheilffyrdd wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU ac mae'n rhaid i'r awdurdod ei roi yn ôl i mewn eto. Ond a ydych chi'n cytuno gyda mi fod swyddogion yr awdurdod lleol wedi dweud ei fod fel mynd yn ôl 10 mlynedd nawr er mwyn symud ymlaen gyda hyn, felly nid yw'n cyflawni llawer iawn mewn gwirionedd, nad ydy?