Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 30 Tachwedd 2022.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy'n derbyn canlyniadau refferenda; mae'n drueni mawr na wnaethoch chi dderbyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn eich etholaeth eich hun, pleidleisiodd 62 y cant o bobl dros adael. Sut ydych chi wedi eu cynrychioli hwy dros y blynyddoedd diwethaf?