6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol — 'Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:20, 30 Tachwedd 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig ar ran y pwyllgor. Mae’n bleser gen i agor y ddadl heddiw ar ran ein pwyllgor i drafod ein hadroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Hoffwn ddiolch i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn ac a rannodd eu profiadau gyda ni fel pwyllgor, i Aelodau eraill y pwyllgor, ac i’n tîm clercio ac ymchwil am eu gwaith ar yr ymchwiliad.

Mae ein hadroddiad, a’n dadl ni brynhawn yma, am y cyfleuoedd sydd gan bobl i fod yn actif pan fyddan nhw’n byw mewn naill ai ardaloedd difreintiedig neu’n byw bywydau difreintiedig. Dylsai chwaraeon fod yn faes cyfartal. Fel rŷn ni’n dweud yn Saesneg, it should be a level playing field. Ond yn anffodus, nid fel yna mae hi. Roedd testun ein hymchwiliad yn bwnc bu nifer o randdeiliaid yn gofyn inni fel pwyllgor edrych mewn iddo. Ac mae’n amlwg yn bwnc o bwys i’r Llywodraeth. Wedi’r cwbl, dywedodd y Llywodraeth inni mewn tystiolaeth ar y gyllideb ddrafft ym mis Ionawr y

'Gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad.'

Sylwch: 'gall'. Mae potensial yma, ond, fel wnaethon ni fel pwyllgor ddarganfod, mae’r potensial hwn yn cael ei rwystro mewn gormod o ardaloedd gan dlodi a diffyg cyfleon, ac mae’r sefyllfa yn mynd yn waeth.   

Dirprwy Lywydd, mae’r pandemig wedi gwaethygu sefyllfa oedd yn barod yn wael. Mae data diweddaraf Chwaraeon Cymru, o fis Awst eleni, yn dangos bod 41 y cant o bobl yn dweud bod yr argyfwng costau byw hefyd nawr wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif. A dangosodd arolwg Chwaraeon Cymru o fis Chwefror fod 40 y cant o oedolion yn teimlo bod y pandemig wedi arwain at newidiadau negyddol i’w trefniadau ymarfer corff. Dynion, oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, a’r pobl sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yw’r rhai mwyaf tebygol o deimlo fel hyn. Roedd pobl o gefndiroedd mwy llewyrchus yn tueddu teimlo’r gwrthwyneb.

Mae bwlch amddifadedd ystyfnig mewn cyfranogiad plant oedran ysgol mewn chwaraeon, hefyd. Eto, yn ôl ffigyrau Chwaraeon Cymru, yn 2022, cymerodd 32 y cant o blant o ardaloedd mwyaf difreintiedig ran mewn chwaraeon tu allan i’r cwricwlwm dair gwaith neu fwy’r wythnos. Y ffigwr ar gyfer disgyblion yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig oedd 47 y cant. Cyfle sydd gennym ni nawr i newid pethau. Ac o ystyried maent y broblem, mae e’n siom bod y Llywodraeth wedi gwrthod ein dau brif argymhelliad ni, ond rydym ni yn croesawu’r llefydd lle mae’r Llywodraeth wedi dweud y byddan nhw’n ystyried gwneud newidiadau.

Mae ein prif argymhelliad yn siarad am yr angen i newid y drefn o’r brig ar gyfer chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Mae ein hadroddiad yn galw am ddull cydweithredol cenedlaethol newydd gan Lywodraeth Cymru. Cyfle byddai hyn i osod targedau mesuradwy ac amserlen diffiniedig dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’r problemau rŷn ni wedi’u darganfod yn rhai sy'n rhy styfnig i’w newid heb newid syfrdanol o'r fath, a byddai ein argymhelliad yn golygu pawb, pob asiantaeth, pob adran o’r Llywodraeth, yn gweithio tuag at yr un nod cyffredin hwn. Buasai hi ddim yn golygu dechrau o'r dechrau; byddai’n golygu bod y Llywodraeth yn gosod uchelgais pendant a dod ag arferion da at ei gilydd. Ac mae pob argymhelliad arall yn llifo o’r prif un yma.

Y prif rhai eraill buaswn i’n sôn amdanynt ydy’r grant datblygu gweithgaredd corfforol, oedd wedi’i dderbyn mewn egwyddor gan y Llywodraeth, a’r argymhelliad am gyllido, oedd wedi’i wrthod. Byddai’r grant, yn ôl ein hargymhelliad, yn dysgu o’r cynllun peilot Active Me—Kia Tū yn Seland Newydd, er mwyn gwella mynediad i’r rhai mewn ardaloedd difreitiedig at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gan fod y Dirprwy Weinidog newydd ddychwelyd o Seland Newydd, lle ddysgodd am y gwaith yma, byddem yn croesawu mwy o ddiweddariad ganddi ar yr argymhelliad yna. Mae ein hargymhelliad yn wahanol i’r grant datblygu disgyblion, gan y byddai’n cyllido hefyd cefnogaeth i gael cyngor proffesiynol i ddatblygu cynlluniau, cit chwaraeon neu ffioedd tanysgrifiadau, mynediad i gyfleusterau, ac hefyd costau teithio.

Gwnaf siarad yn olaf, Dirprwy Lywydd, am ein argymhelliad ar gyllido. Mi wnaf roi ychydig o gyd-destun i esbonio hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y gall chwaraeon fod yr arf iechyd ataliol mwyaf effeithiol. Mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd gwladol wedi tyfu 50 y cant rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill eleni, felly byddai arf o’r fath i’w groesawu. Ond mae'r cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru wedi'i gwastadu; hynny ydy, it’s plateaued. Bydd cyllideb refeniw terfynol 2021-22 yn cynyddu o £22.4 miliwn i £22.7 miliwn yng nghyllideb derfynol 2022-23; hynny ydy, cynnydd o 1 y cant. Amcanir y bydd yn cynyddu 6 y cant erbyn 2024-25, sydd yn llawer is na chyfraddau chwyddiant cyfredol. Mae arian cyfalaf ar gyfer yr un cyfnod i lawr o £8.6 miliwn i £8 miliwn. 

Cyn i ni glywed gan Aelodau eraill yn y ddadl bwysig hon, buaswn i eisiau dweud bod pethau eithriadol o dda yn digwydd dros Gymru. Cymeradwyodd nifer o randdeiliaid waith Chwaraeon Cymru—y prosiectau dros Gymru sydd yn gwneud cymaint o waith anhygoel o dda a phwysig ym mywydau pobl. Ein dadl ni ydy, gyda'r adnoddau cywir, gallai hyn fod hyd yn oed yn well. Dros yr wythnosau diweddar, rŷm ni gyd wedi mwynhau gwylio Cymru yng nghwpan y byd. Heb fuddsoddiad amserol gan Lywodraeth Cymru, mae perygl i ni golli’r seilwaith i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr—y Bales, y Ramseys ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn berthnasol, wrth gwrs, ar gyfer pob camp, pob gweithgaredd. Rŷm ni eisiau i Gymru aros ar ben y byd o hyd. Buddsoddi yn iechyd y genedl fyddai hyn, mewn cymaint o ffyrdd, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill. Diolch.