Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch i Tom Giffard am ildio, a deallaf fod yr adroddiad penodol hwn yn ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon, ond a ydych yn cytuno â mi ei fod ychydig yn ehangach na hynny hefyd mewn gwirionedd? Mae'n ymwneud â mynychu, cymryd rhan ac efallai gwylio chwaraeon yn yr ardaloedd difreintiedig hyn, gan fod hynny'n fuddiol iawn i iechyd meddwl hefyd, mewn ysbryd cymunedol.