6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol — 'Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:38, 30 Tachwedd 2022

Hoffwn hefyd ategu fy niolch i'r Cadeirydd, fy nghyd-Aelodau, y clercod, a phawb roddodd dystiolaeth i ni hefyd, a'r tîm ymgysylltu. Yn sicr, dwi'n ategu pwyntiau Alun Davies o ran bod hwn wedi bod yn ymchwiliad sydd wedi codi calon ar adegau o ran gweld angerdd pobl a lot o'r prosiectau gwych sydd yn digwydd o ran sicrhau bod yna well ymgysylltiad efo chwaraeon. Hoffwn ategu hefyd pwyntiau Tom Giffard o ran y pwysigrwydd roeddem ni'n clywed o ran gallu mwynhau chwaraeon. Does dim ots os dydych chi ddim yn dda iawn amdanyn nhw. Doeddwn i byth—sioc i chi i gyd, dwi'n siŵr—ond doeddwn i byth yn wych am chwaraeon yn yr ysgol. Ond, mae rhywun yn mwynhau gallu cael y cyfle, ac mi roeddwn i'n cael y cyfle hwnnw. Dwi'n meddwl mai dyna'r peth oedd yn tristáu rhywun o ran yr ymchwiliad hwn oedd gweld faint o gyfleoedd sy'n cael eu colli oherwydd amryw o resymau gwahanol.

Dwi'n sicr, o ran yr argymhellion, mae'n rhaid i ni feddwl amdanyn nhw yng nghyd-destun, dwi'n meddwl, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bod hyn ddim jest ynglŷn â chwaraeon; mae o ynglŷn â chyfranogiad, mae o ynglŷn ag iechyd a lles, mae o hefyd ynglŷn ag atal gwaeledd yn y dyfodol oherwydd, yn sicr, yn nifer o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mae'r problemau iechyd mwy hirdymor lle dŷn ni'n gweld pobl yn marw'n fwy ifanc oherwydd gorbwysau ac ati. A dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych ar hyn, bod o ddim jest yn wariant o bortffolio chwaraeon; mae hwn yn gorfod bod yn wariant gan y Llywodraeth a buddsoddiad ar gyfer cendlaethau'r dyfodol, a hefyd bod chwaraeon ar gyfer pob oedran, ac ein bod ni'n sicrhau rhai o'r esiamplau gawson ni ynglŷn â phêl-droed—y walking football, a walking rugby, a hynny i gyd—pa mor bwysig ydy hynny o ran cymuned a dod â phobl ynghyd unwaith eto yn sgil COVID. Felly, mae hwn yn rhywbeth sydd y tu hwnt i bortffolio chwaraeon, yn sicr.

Byddwn i'n hoffi hefyd ein bod ni'n edrych yn ehangach o ran diwylliant a chyfranogiad efo diwylliant, oherwydd un o'r pethau eraill y clywsom ni gan y tystion oedd bod pethau fel dawnsio yn gallu bod yn y ddau gategori—yn aml yn dod drwy'r portffolio diwylliant neu’r celfyddydau, yn hytrach na chwaraeon, ond bod hwnnw hefyd yn rhywbeth dŷn ni angen edrych arno fel cyd-destun.

A dwi'n meddwl un o'r pethau mawr a oedd wedi cael eu codi efo Tom Giffard hefyd ydy: beth yw'r diben buddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn benodol, os na all pawb sy'n dymuno eu defnyddio eu cyrraedd, os mai dim ond y rheini sydd efo rhieni neu ofalwyr sy'n gallu eu nôl nhw o fan hyn sydd yn mynd i allu defnyddio a chael budd ohonyn nhw? Ac yn sicr, mi oedd hynny'n dod drosodd yn glir iawn.

Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn gytûn, fel Senedd, y dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon, a bod hyn am hwyl neu ar lefel broffesiynol, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir nad yw hyn yn wir ac nad ydy pawb sydd yn gallu mynd ymlaen i'r lefel uchaf yn cael y cyfle cyfartal hwnnw ar hyn o bryd. Mae'r ffaith bod mynediad at gyfleusterau yn loteri cod post yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei daclo, ac mi oedd Alun Davies yn llygad ei le—nid rhywbeth dwi'n ei ddweud yn aml, ond yng nghyd-destun hyn—o ran yr elfen ddaearyddol. Yn aml, wrth gwrs, mae yna broblemau o ran Cymru wledig, ond mae hon yn broblem ehangach, ac mae gennym ni bobl, yn y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli o ran Canol De Cymru, sydd efo'r holl rwystrau hynny, felly nid dim ond daearyddiaeth mohono fo.

Dwi'n meddwl hefyd ein bod ni angen nodi tystiolaeth fel Nofio Cymru ac ati, yn gweld bod mwyafrif o'r tua 500 o byllau nofio yng Nghymru wedi’u lleoli yn ne Cymru. Hefyd nodi pethau o ran costau cynyddol efo pyllau nofio i'w cadw nhw i fynd. Nid dim ond chwaraeon ydy hynny—mae hyn yn sgil sy'n gallu achub bywyd, a dwi'n meddwl bod rhaid inni feddwl hefyd o ran sut rydym ni'n sicrhau bod pawb yn gadael yr ysgol yn gallu nofio fel sgil hanfodol bywyd. Felly, yr un peth dwi'n meddwl—mae'n rhaid inni edrych yn bellach o ran sicrhau nad yw cost neu ddiffyg trafnidiaeth cyhoeddus yn rhwystro mynediad i gyfranogiad.

Hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith ddaeth drosodd yn yr ymchwil hefyd o ran merched yn benodol a hefyd sicrhau bod pawb, beth bynnag fo'u cefndir neu ethnigrwydd, yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus o ran ymwneud efo chwaraeon. Mi gawson ni esiampl dda gan Undeb Rygbi Cymru o ran yr hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud efo cynnyrch mislif a sicrhau bod adnoddau priodol yna. Mae'r math yma o bethau mor, mor bwysig, a dwi'n meddwl bod yna esiamplau da ac arfer da o ran hyn.

Rhaid imi gyfaddef, dwi yn siomedig gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion, gyda dim ond pump o'r 12 cynnig yn cael eu derbyn, ac mi fyddwn i yn gobeithio, fel roeddwn i'n sôn, bod hwn yn rhywbeth sydd angen cael ei berchnogi gan y Llywodraeth gyfan os ydym ni eisiau sicrhau gwella cyfleoedd i bobl ifanc a phobl o bob oed i ymgysylltu. Dwi yn gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i barhau i gydweithio gyda'r pwyllgor o ran craffu a gweithredu ar yr adroddiad hwn, a chydweithio gyda'r Gweinidogion i sicrhau bod chwaraeon i bawb, beth bynnag eu cefndir a lle bynnag y byddant yn byw yng Nghymru a pha bynnag lefel maen nhw'n ei chwarae neu'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Diolch.