7. Dadl ar ddeiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:25, 30 Tachwedd 2022

Diolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl yma yn trafod y ddeiseb ynghylch mynyddoedd Elenydd a'r ardal i lawr i fynydd Mallaen. Dwi am ddatgan yma heddiw ein bod ni'n cydymdeimlo efo egwyddor y syniad o warchod elfennau o'n tir, ond yn benodol felly'r bywyd natur a'r amgylchedd sy'n rhan o'r tir hwnnw, ond rhaid peidio ag anghofio'r bobl a'r cymunedau yno. Mae'n bryder ein bod ni wedi gweld cwymp aruthrol yn ein byd natur dros yr 50 mlynedd diwethaf, efo rhywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin bellach o dan fygythiad, a rhai wedi diflannu am byth. Dyna pam, wedi'r cyfan, ein bod ni wedi datgan argyfwng natur.

Mae'r ardal yma rydyn ni'n sôn amdani heddiw yn gyforiog o fyd natur, ac mae angen cymryd camau i sicrhau parhad. Ond ofnaf nad trwy osod dynodiad fath ag ardal o harddwch naturiol eithriadol, neu AHNE, ydy'r ffordd i wneud hynny. Y gwir ydy nad pwrpas AHNE ydy cyflawni'r pethau yma. Yn wir, os edrychwch chi ar ardaloedd sydd efo dynodiadau fath ag AHNE, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu barc cenedlaethol, yna fe welwch eu bod hwythau wedi colli canran sylweddol o rywogaethau dros yr hanner canrif diwethaf yn gymaint ag unrhyw ardal sydd heb ddynodiad. Ond, mae'r Bil amaeth newydd sydd wedi cychwyn ar ei daith drwy'r Senedd hon rŵan yn mynd i edrych ar anghenion amgylcheddol ac ecolegol. Nid trwy roi dynodiad AHNE, felly, y mae mynd i'r afael â'r argyfwng natur yn yr ardal, ond trwy weithio mewn partneriaeth efo pobl sydd yn gweithio'r tir, yn byw ar y tir, ac yn mwynhau'r ardal. 

Dwi'n ofni fod ymgyrchwyr yn sôn yn benodol am bryderon am ffermydd gwynt. Mae'n werth nodi pryderon pobl, wrth reswm, ond byddai gosod dynodiad fath ag AHNE er mwyn atal datblygiadau o'r fath yn gamddefnydd o'r dynodiad hwnnw. Nid dyna bwrpas y dynodiad. Os ydy pobl wirioneddol yn pryderu am ddatblygiadau fath â melinau gwynt, yna'r fforwm i leisio'r pryderon yma ydy trwy'r broses gynllunio. 

Rŵan, nid dynodiad yn unig ydy AHNE; mae i AHNE statws a disgwyliadau, ac mae'r disgwyliadau yna yn disgyn, i raddau helaeth, ar y llywodraethau lleol sydd yn yr ardal. Byddai creu AHNE newydd yn rhoi pwysau cyllidol ychwanegol felly ar Geredigion, Powys a Sir Gâr, ac mae'r siroedd yma eisoes yn wynebu cyfnod cyllidol llwm, felly prin iawn y byddan nhw'n croesawu dynodiad fath ag AHNE. Mae'r parciau cenedlaethol ac AHNEau yn brin o'r cyllid angenrheidiol ar gyfer monitro, ac yn brin o staff arbenigol. Oes, mae'n rhaid i ni wella cyflwr ein hardaloedd naturiol, a'r ffordd orau o wneud hynny ydy i gyflwyno targedau adfer natur i fuddsoddi mewn cynefinoedd o dan berygl, mewn monitro ac mewn staff arbenigol. 

Does dim dwywaith nad ydy'r ardal yma yn ardal o harddwch eithriadol; mae'n ardal gwbl odidog ac yn llawn hanes. Mae'r potensial i ddatblygu economi gylchol efo mentrau twristaidd o dan berchnogaeth leol yn fawr yno. Felly, yn hytrach na dynodiad sydd yn gosod ardal mewn rhyw fath o stasis, rhaid yn lle edrych ar adeiladu ar waith da sydd eisoes yn mynd rhagddo. Mae menter mynyddoedd y Cambrian, sydd yn bartneriaeth rhwng y dair sir, wedi datblygu cynllun parc hydwythedd cymunedol a natur yn edrych ar sut mae datblygu a hyrwyddo'r ardal, gan ddysgu gwersi o barciau natur rhanbarthol Ffrainc. Mae'r parciau yma yn gwarchod natur, yn cydweithio efo cymunedau, ac yn datblygu cyfleoedd economaidd mewn modd sydd yn parchu amgylchedd a chymuned. Mae'r gwaith o ddatblygu cynlluniau cyffelyb eisoes ar y gweill gan fenter mynyddoedd Cambrian.

Felly, nid yw gosod dynodiad fel AHNE am fod o fudd i'r ardal yma, a dyna pam ein bod ni'n gwrthwynebu hyn. Ond mi rydyn ni yn credu fod cyfle i ddatblygu cynlluniau cyffrous, mewn cydweithrediad â chymunedau a phobl sy'n byw yno, a fydd yn galluogi pobl i fyw ar y tir i ddatblygu'r economi leol, tra'n parchu a chryfhau'r amgylchedd odidog naturiol sydd yn y rhan arbennig yma o Gymru.