Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae 2022 yn nodi hanner canmlwyddiant cynlluniau a luniwyd i ddynodi mynyddoedd Cambria yn barc cenedlaethol cyntaf Cymru. Ni chafodd y cynlluniau hynny mo'u gweithredu. Felly, heddiw, yma wrth galon democratiaeth, mae Senedd Cymru—pobl Senedd Cymru—yn trafod deiseb a gyflwynwyd gan Celia Brazell, ac a lofnodwyd gan dros 20,000 o bobl sy'n gobeithio na fydd rhaid iddynt aros am 50 mlynedd arall i'w tirwedd, eu cynefinoedd a'u ffordd o fyw gael eu cydnabod a'u diogelu.
Ddirprwy Lywydd, mae deiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' yn dweud:
'Mynyddoedd Cambria: awyr agored ddiddiwedd, bioamrywiaeth eithriadol, bryniau a dyffrynnoedd ysblennydd, 5,000 o flynyddoedd o dreftadaeth, megis yr iaith Gymraeg, ffermio a mwyngloddio. Mae’r ymdeimlad o ehangder a heddwch yn neilltuol. Yn anffodus, ychydig o sylw a gaiff y dasg o warchod yr ucheldiroedd hyn. Caiff ffermydd eu prynu ar gyfer plannu coed conwydd neu ar gyfer adeiladu ffermydd gwynt mawr, a hynny er gwaethaf y diffyg seilwaith sydd yno. Mae angen gwarchod rhanbarth mor brydferth a sicrhau cyflogaeth yng nghefn gwlad yn y tymor hwy. Dylid dynodi Mynyddoedd Cambria fel yr ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf yng Nghanolbarth Cymru.'
Bydd Aelodau'r Siambr yn ymwybodol fod Cymru ar hyn o bryd yn gartref i bedair ardal a hanner o harddwch naturiol eithriadol: Ynys Môn, bryniau Clwyd a dyffryn Dyfrdwy, penrhyn Llŷn a'r Gŵyr—oll yng Nghymru—yn ogystal ag ardal o harddwch naturiol eithriadol dyffryn Gwy, sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr. Rydym hefyd yn gartref i dri pharc cenedlaethol: Bannau Brycheiniog, arfordir sir Benfro ac Eryri.
O dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddynodi unrhyw ardal yng Nghymru nad yw eisoes yn barc cenedlaethol yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, os yw'n ardal o'r fath harddwch naturiol eithriadol fel y dylid ei gwarchod a'i gwella.
Nawr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog sy'n ymateb i'r ddadl wedi estyn gwahoddiad i'r prif ddeisebydd gyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion CNC:
'i drafod rhai agweddau ar y cynnig i ddynodi yn fanylach.'
Rwyf fi ac aelodau'r pwyllgor yn edrych ymlaen yn fawr at glywed am unrhyw gynnydd a wneir yn hynny o beth.
Lywydd, mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddynodi parc cenedlaethol newydd i gynnwys bryniau Clwyd a dyffryn y Ddyfrdwy, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelod ar ochr arall y Siambr, Darren Millar, yn arbennig o falch ynglŷn â phenderfyniad y rhaglen lywodraethu. Gwn ei fod wedi bod yn gefnogwr naturiol ac wedi dadlau'n frwd ar brydiau wrth alw am bethau fel arsyllfa genedlaethol i Gymru, a phwy a ŵyr beth fyddai Mr Millar yn eu gweld yn yr awyr dywyll honno? Gwn ei fod ef yn arbennig wedi cyflwyno cwestiynau i'r Senedd hon ynglŷn â gwrthrychau hedegog anhysbys yn ei gyfnod fel Aelod.
Lywydd, rwy'n deall serch hynny y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru a CNC yn ffocws i amser swyddogion yn y tymor byr. Ond y tu hwnt i hynny, a fyddai modd edrych eto ar yr achos o blaid mynyddoedd Cambria?
Mae'r Gweinidog hefyd wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn nodi bod CNC:
'hefyd wedi ymrwymo i gynnal asesiad technegol ar gyfer Cymru gyfan o harddwch naturiol. Y bwriad yw asesu ardaloedd yn erbyn y meini prawf harddwch naturiol a fydd yn helpu i asesu eu hangen posibl i gael eu gwarchod yn y dyfodol.'
Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria wedi gweithio'n ddygn ar yr ymgyrch hon, gan gasglu degau o filoedd o lofnodion mewn digwyddiadau ar hyd a lled canolbarth Cymru. Daeth grŵp o ymgyrchwyr i lawr i'r Senedd i gyflwyno'r ddeiseb ar 4 Hydref, a diolch yn fawr i Luke Fletcher, Joel James a Russell George am dderbyn y ddeiseb ar fy rhan a chyfarfod ag ymgyrchwyr.
Nawr, gwn fod rhannau eraill o Gymru â diddordeb mewn dynodi eu tirweddau, hefyd. Mae fy nghyd-Aelod John Griffiths wedi bod yn hyrwyddo gwastadeddau Gwent yn y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd cynigion ehangach i ehangu ardal o harddwch naturiol eithriadol Penrhyn Gŵyr, a hefyd i ystyried y Berwyn. Ond am heddiw, oherwydd bod 20,000 o bobl wedi gofyn, rydym ni, Senedd Cymru, yn trafod deiseb yn cyflwyno'r cwestiwn ar ran mynyddoedd Cambria. Fel y mae'r deisebwyr yn dweud, mae hon yn ardal sy'n gartref i ystod eang o fioamrywiaeth: adar ysglyfaethus, gwiwerod coch, dyfrgwn, beleod, gloÿnnod byw, gweision y neidr, buchod coch cwta a 15 math o chwilod tail. Mae hefyd yn gartref i'r bobl sy'n byw a gweithio ar y tir, pobl angerddol sydd wedi arwain ymgyrch drawiadol i roi llais i'w rhan hwy o Gymru a'r statws y credant ei bod yn ei haeddu.
I gloi, Lywydd, maent yn dweud hyn:
'Os caiff Mynyddoedd Cambria frand mawreddog fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, ac os caiff y mynyddoedd eu rheoli mewn modd cydlynol, bydd y rhanbarth yn sicr yn ffynnu.'
Diolch yn fawr.