Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr a gododd y mater pwysig iawn hwn, a hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am ei ystyriaeth feddylgar o'r mater.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llawn y rôl hanfodol y mae ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol yn eu chwarae yng Nghymru, ac mae'n cefnogi dynodiadau newydd posibl lle bo hynny'n briodol. Mae ardaloedd AHNE, er efallai'n cael eu gweld fel perthynas dlotach i'r parciau cenedlaethol, yn cynnig llawer o'r un manteision a gwarchodaeth. Mae timau AHNE yn aml yn fedrus am gynnull amrywiaeth o bartneriaid ynghyd i ddarparu gwelliannau i dirwedd. Oherwydd bod ganddynt lai o gyfrifoldebau statudol megis pwerau cynllunio, gellid dadlau y gallant fod yn fwy hyblyg a chanolbwyntio ar waith ymarferol ar lawr gwlad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cydnabod pŵer dynodiadau AHNE i weithio'n agos gyda phartneriaid a chymunedau ac wedi cynyddu'r cyllid a ddarparwn iddynt. Drwy ein cynlluniau tirweddau cynaliadwy, lleoedd cynaliadwy a'n cronfa datblygu cynaliadwy, rydym wedi ariannu amrywiaeth o brosiectau bioamrywiaeth, datgarboneiddio, twristiaeth a chymunedol, gan ddarparu cyfanswm o dros £5 miliwn ar gyfer y tair blynedd ddiwethaf.
Mae'n amlwg fod mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru yn ardal hynod o brydferth a thangnefeddus, yn ogystal â bod o bwys mawr i'r Gymraeg ac i ffermio. Mae'r ddeiseb yn nodi'n huawdl rai o rinweddau'r dirwedd hon, ac rwy'n croesawu'r ddadl ar ei dyfodol. Rwy'n siŵr fod cyd-Aelodau'n ymwybodol fod y broses i ddynodi parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi dechrau y llynedd. Rwy'n disgwyl i hyn fod yn ffocws i ymdrechion i ddynodi tirwedd am weddill tymor y Senedd hon. Mae dynodi yn broses gynhwysfawr a manwl. Mae gennym lawer i'w wneud hefyd i wella a grymuso dynodiadau cyfredol i gyfrannu'n fwy sylweddol at wrthsefyll yr argyfyngau natur a hinsawdd. Bydd ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'n parciau cenedlaethol yn gyfryngau allweddol ar gyfer cyflawni wrth inni geisio cyrraedd y targed bioamrywiaeth 30x30 a gwella llawer mwy o'n tir er mwyn i natur allu ffynnu.
Wrth gwrs, rydym yn wynebu argyfyngau hinsawdd a natur, ac os nad ydym yn meddwl yn wahanol am ein dyfodol, er enghraifft drwy gymryd cyfrifoldeb dros ddiwallu ein hanghenion ynni mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, ni chaiff y tirweddau hyn mo'u cadw. Dyma pam ein bod wedi ymrwymo i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy. Mae angen inni gydweithio fel gwlad i feddwl yn wahanol a dod o hyd i atebion i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â'r cyfrifoldeb dros argymell dynodiadau AHNE a pharciau cenedlaethol. Mae hyn wedi'i nodi mewn deddfwriaeth, yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a Deddf yr Amgylchedd 1995. Mae'n bwysig fod y broses ddynodi, ar ôl ei chychwyn, yn drwyadl, yn wrthrychol ac yn dryloyw. Byddai angen arddangos cefnogaeth gref yn lleol er mwyn i CNC ddechrau'r broses ddynodi, yn cynnwys cefnogaeth yr awdurdodau lleol perthnasol a chymunedau lleol. Rwy'n derbyn bod y ddeiseb y mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria wedi'i chyflwyno yn dangos llawer iawn o gefnogaeth yn lleol ac yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'n rhywbeth rwy'n ymwybodol fod cynrychiolwyr etholedig yr ardal wedi ymgyrchu arno neu y mae awdurdodau lleol yr ardal wedi mynegi barn arno. Mae'r safbwyntiau hynny'n bwysig iawn i'w clywed wrth i CNC ystyried a fyddai'n briodol edrych ar ddynodiad i fynyddoedd Cambria yn y dyfodol.
Mae'n werth nodi hefyd fod canran fawr o fynyddoedd Cambria eisoes yn destun gwarchodaeth lem. Yn ôl ffigurau 2015, mae 17 y cant o fynyddoedd Cambria wedi'u dynodi'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gyda bron i 90 y cant o ardal y SoDdGA hefyd wedi'i ddynodi o dan gyfarwyddeb cynefinoedd Ewrop fel ardal gadwraeth arbennig, neu ardal warchodaeth arbennig, neu'r ddau. Ceir sawl gwarchodfa natur leol a chenedlaethol hefyd.
Ni fyddai'n briodol imi gytuno i ddynodiad AHNE newydd yma nawr, ond rwy'n agored i ddeialog wrth inni archwilio'r hyn rydym ei angen a'i eisiau o'n tirweddau. Rwy'n ddiolchgar iawn i sefydliadau fel Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, sy'n gweithio'n ddiflino i hyrwyddo ac ymgyrchu dros warchodaeth rhai o'n hoff dirweddau. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion a swyddogion CNC gyfarfod â'r gymdeithas i drafod eu hymgyrch yn fanylach. Rwy'n deall bod cyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf, ac rwy'n awyddus i gael adborth o'r drafodaeth honno. [Torri ar draws.]