8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 6:01, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn bwysleisio ar y dechrau, er ein bod yn cyd-gyflwyno, rwy'n credu ein bod yn dod at hyn o safbwyntiau gwahanol, ac i mi, rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth am ymchwiliad annibynnol yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr Alban yn dangos y ffordd o ran yr hyn sydd angen inni allu ei graffu, oherwydd mae effaith COVID yn dal i'w theimlo ym mywydau pawb ohonom nawr. Ydy, mae'n ymwneud â chyfiawnder i'r rhai a gollodd anwyliaid, ond mae hefyd yn ymwneud â'r heriau i'r gweithlu, y ffaith ein bod bellach yn gweld y GIG ar ei liniau, ein bod yn gweld yr effaith iechyd meddwl ar bobl ifanc yn parhau nawr, a hyn oll oherwydd COVID. Mae'r Alban yn edrych ar bob elfen ac yn dysgu gwersi—dysgu gwersi fel ein bod mewn sefyllfa i allu ymdopi gystal ag y gallwn pan fyddwn yn y sefyllfa hon eto, oherwydd fe wyddom fod pandemigau'n mynd i ddigwydd yn amlach gydag effaith newid hinsawdd.

Nid oedd yr un ohonom yn genfigennus o rôl y Prif Weinidog. Yn sicr, nid oeddwn yn y Siambr pan darodd COVID, ac rwy'n cofio gwylio'r newyddion a meddwl pa mor anodd oedd hi i Lywodraeth Cymru. Nid mater o daflu bai yw hyn. Mae ymchwiliadau hefyd yn ymwneud â dysgu am yr hyn a wnaethom yn iawn a sicrhau bod y gwersi hynny hefyd yn rhan o hyn, oherwydd roedd rhai penderfyniadau yn rhai cywir ac fe wnaethant wahaniaeth a olygodd fod rhai pobl yn dal yn fyw heddiw, ac ni fyddent wedi bod yn fyw pe na bai'r penderfyniadau hynny wedi'u gwneud. Ond sut mae dysgu'r gwersi heb ymchwiliad?

Hoffwn ofyn: os nad ydym yn fodlon cael ymchwiliad annibynnol mewn perthynas â COVID-19 a'r heriau mwyaf y mae unrhyw Lywodraeth yn y Senedd hon wedi'u hwynebu ers ein sefydlu, ym mha amgylchiadau y gwelwn ni fyth ymchwiliad annibynnol gan Lywodraeth Cymru? Yn sicr, i mi, mae'n ymwneud â'r ffaith mai Canol De Cymru a welodd y gyfran uchaf o farwolaethau, ac fe wyddom fod effaith barhaus afiechyd yn dal i'w theimlo'n fawr.

O'r geiriau—. Nid yw Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn arddel safbwynt plaid wleidyddol; dyma eu profiadau bywyd. Maent wedi rhannu straeon dirdynnol gyda phob un ohonom, ac nid oes neb ohonynt—neb ohonynt—yn ceisio codi cywilydd ar y Llywodraeth. Maent ond eisiau gwybod: a allai unrhyw beth fod wedi newid pethau i fy mherthynas? A allai unrhyw beth fod wedi bod yn wahanol? I Catherine, a rannodd gyda mi ar Twitter:

'Bu farw fy nhad mewn cartref gofal...bydd ffarwelio gydag ef drwy ffenest ac yntau'n estyn ei freichiau ataf i'w helpu yn aros gyda fi am byth', er mwyn rhywun annwyl i mi a fu farw o ganlyniad i ddal COVID yn yr ysbyty a phawb arall sydd wedi colli anwyliaid yn yr un modd, rhaid dysgu gwersi drwy gael ymchwiliad COVID i Gymru'n unig er mwyn ceisio sicrhau bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu ac na fydd sefyllfaoedd tebyg yn digwydd eto. Rydym angen craffu yma yng Nghymru ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru. Mae angen ymchwiliad annibynnol. Cyfaddawd yw hwn, ond mae ei angen yn fawr iawn.