Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Dyna ni. Rydych chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ateb y ddadl y prynhawn yma, ac roeddwn i'n teimlo ei fod wedi gwneud cynnig hael iawn ynglŷn â gweithio fel Senedd gyda'n gilydd ar y materion hyn. Oni fyddai'n fuddiol i'r Senedd hon bellach pe bai'r gwrthbleidiau'n trafod rhai o'r cynigion y mae'r Prif Weinidog wedi'u gwneud heddiw gydag ef, yn hytrach na gwthio'r mater hwn y prynhawn yma? A Lywydd, rwy'n credu y byddai'r Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hefyd eisiau gwybod pam nad yw'r Llywodraeth wedi gallu cyflwyno busnes.