Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Gwn fod aelodau meinciau cefn Llafur yn meddwl eu bod nhw'n helpu'r Prif Weinidog pan fyddan nhw'n gwneud sylwadau ar y cwestiwn dan sylw, ond nid wyf i'n credu bod hynny'n wir mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n credu bod y Prif Weinidog a minnau'n ei chael hi'n anodd clywed y cwestiynau sy'n cael eu gofyn bryd hynny.