Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Prif Weinidog, nid wyf i'n credu y byddwch chi'n cael eich syfrdanu gan yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud. Efallai nad wyf i'n rhannu'r un teimladau â Hefin David yn hyn o beth. Mae'r cytundeb cydweithredu hwn, y mae fy nghyd-Aelodau ar y meinciau hyn a'r rhai y tu allan i'r Siambr hon, i fod yn gwbl blaen, wedi bod yn cyfeirio ato fel clymblaid, oherwydd os yw'n edrych fel un mae yn un fel rheol, wedi cyflwyno un cynnig niweidiol ar ôl y llall. Rwy'n cyfeirio'n benodol at y terfynau cyflymder diofyn o 20 mya, atal adeiladu ffyrdd, treth twristiaeth, a chreu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd am swm o dros £100 miliwn, ac mae'r swm hwnnw'n tyfu o ddydd i ddydd. Mae'r cynigion hyn yn teimlo ymhell iawn o flaenoriaethau'r cyhoedd yng Nghymru. Ni all neb yma wadu—ac ni allai neb hyd yn oed feddwl am wadu—bod amseroedd aros y GIG wedi parhau i dyfu. Mae gan Gymru dri chwarter miliwn o bobl ar restrau aros am driniaethau, yr arosiadau damweiniau ac achosion brys gwaethaf ym Mhrydain, yr amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf a gofnodwyd erioed, ac mae ein hysgolion ar waelod cynghrair Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr y DU. Felly, Prif Weinidog, hoffwn wybod pryd mae Llywodraeth Cymru yn mynd i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl—[Torri ar draws.]