Y Cytundeb Cydweithio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:09, 6 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd hi'n flwyddyn ers sefydlu'r cytundeb cydweithredu yr wythnos diwethaf—rwy'n falch o weld ei fod yn dal mor iach. [Chwerthin.] Ond, un o ymrwymiadau'r cytundeb cydweithredu, fodd bynnag, oedd rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei rannu—o leiaf y ddwy ran o dair hyn o'r Siambr—sef gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru. Lansiodd Unsain Cymru adroddiad yr wythnos diwethaf yn yr eglwys Norwyaidd a oedd yn nodi'r angen i gefnogi'r argyfwng dybryd ym maes gofal cymdeithasol, ac, yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog yr hoffai ef ei hun ailystyried rhai o'r materion ariannu o ran gofal cymdeithasol. Rwyf i wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen am fy nghefnogaeth bersonol i ardoll Holtham i ddatrys yr argyfwng. Gwn ei fod wedi dweud yn y gorffennol, pe baem ni'n dilyn y llwybr hwnnw, mae wastad siawns y gallai Llywodraeth y DU gymryd i ffwrdd â'r llaw arall. Rwy'n derbyn y ddadl honno'n llwyr. Ond, ar hyn o bryd, pa asesiad y mae'n ei wneud o'r angen i ni weithredu nawr, yma yng Nghymru, i ddatrys yr argyfwng hwn ym maes gofal cymdeithasol?