Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Diolch i Hefin David am hynna, Llywydd. Mae'r grŵp arbenigol a sefydlwyd yn rhan o'r cytundeb cydweithredu wedi cyflawni ei waith. Derbyniwyd ei adroddiad; fe'i cyhoeddwyd gennym ar 10 Tachwedd. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i aelodau'r grŵp hwnnw am yr ystyriaeth fanwl iawn a roddwyd ganddyn nhw i amgylchiadau heriol gofal cymdeithasol.
Ni ellir dadlau, yn fy marn i, Llywydd, bod y cyd-destun wedi newid ers llofnodi'r cytundeb cydweithredu ac y gwnaethom ni ofyn i'r grŵp hwnnw wneud ei waith. Mae'r Prif Weinidog Sunak wedi rhoi terfyn ar y cyllid gofal cymdeithasol a sefydlodd y Canghellor Sunak pan oedd yn y swyddfa honno. Mae'r Prif Weinidog Sunak wedi rhoi terfyn ar y trefniadau talu am ofal cymdeithasol yr oedd y Prif Weinidog Johnson wedi eu rhoi ar waith tra'r oedd Mr Sunak yn Ganghellor. Mae hynny oll yn golygu ein bod ni wedi gorfod meddwl eto am yr adroddiad a'r ffyrdd y gallwn ni feddwl am dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol. Ac mae hynny'n golygu, fel y dywedais i, ac fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru yr wythnos diwethaf pan oeddem ni'n siarad gyda'n gilydd am hyn, y dylem ni adfywio'r gwaith a wnaed yn nhymor diwethaf y Senedd—gwaith manwl iawn a wnaed yn edrych ar adolygiad Holtham, y cynigion ar gyfer ardoll gofal cymdeithasol—i weld a yw'n rhoi llwybr amgen i ni, o gofio bod llwybrau'r DU a oedd i fod ar waith bellach wedi eu cau, a pha un a yw hynny'n cynnig llwybr amgen i ni ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae'r anawsterau y cyfeiriodd Hefin David atyn nhw yn parhau. Mae'r llinell sy'n rhannu cyfrifoldebau datganoledig a heb eu datganoli yn y maes hwn yn un aneglur iawn, a cheir camau sydd yn nwylo Llywodraeth y DU a all gael effaith sylfaenol ar y ffordd y byddai camau y gallem ni eu cymryd yn cael eu heffaith ym mywydau dinasyddion Cymru. Dyna pam mae hi mor siomedig gweld y pethau yr oeddem ni'n credu oedd ar waith bellach yn cael eu rhoi o'r neilltu unwaith eto, oherwydd mae'n taflu hynny i gyd yn ôl i mewn i ansicrwydd. Y newyddion da yw bod y gwaith a gadeiriwyd gan fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn nhymor diwethaf y Senedd i gyd yno i ni fynd yn ôl ato. Nawr, bydd fy nghyd-Weinidog, Rebecca Evans, yn bwrw ymlaen â hynny ac yn gwneud yn siŵr o dan yr amgylchiadau newydd, a gyda'r adroddiad sydd gennym ni ar gael i ni, ein bod ni'n edrych i weld a yw hynny'n cynnig unrhyw gyfleoedd newydd i ni ddylunio system a fyddai'n gweithio i Gymru.