Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn, Llywydd. Rwyf am weld gwasanaeth iechyd sy'n gallu ymateb i angen yn brydlon, o safbwynt clinigol, ac sydd ar gael i bawb sy'n dewis ei ddefnyddio. Y gwasanaeth iechyd sy'n darparu bron y cyfan o'r gofal sylfaenol a'r gofal brys yng Nghymru. Os yw cleifion yn dewis defnyddio'r sector annibynnol, maen nhw’n rhydd i wneud hynny, wrth gwrs.