Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Mewn sawl ffordd, nodwyd craidd y broblem yn y cwestiwn, sef bod deintyddion yn fusnesau preifat; maen nhw'n gontractwyr. Ni ellir eu gorfodi i weithio i'r GIG. Ac rydym ni wedi gweld, i raddau bach iawn, mewn gwirionedd, rhai deintyddion yng Nghymru yn symud allan o'r GIG ac i bractis preifat. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am y peth? Wel, rwyf i wedi rhannu hyn ar y llawr nifer o weithiau, Llywydd. Yn greiddiol i'r hyn y byddwn ni'n ei wneud yw newid contract deintyddion yn GIG Cymru, ac rydym ni wedi gwneud hynny ers 1 Ebrill. Mae'r mwyafrif helaeth o ddeintyddion yng Nghymru wedi dewis y cytundeb newydd, a bydd y cytundeb newydd ar ei ben ei hun yn creu tua 126,000 o apwyntiadau GIG ychwanegol yma yng Nghymru ym mlwyddyn gyntaf y contract hwnnw. Yn ardal Hywel Dda, sy'n rhan o'r ardal a gynrychiolir gan yr Aelod, mae hynny eisoes wedi cynhyrchu dros 8,000 o apwyntiadau GIG ychwanegol, ac mae tua hanner y rheini ar gyfer plant. Felly, mae camau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd, yn ogystal â'r buddsoddiad pellach y mae'r Gweinidog wedi ei wneud ar gael i fyrddau iechyd at ddibenion deintyddol eleni.
Yn y tymor hwy, yr ateb yw diwygio natur y proffesiwn, er mwyn rhyddfrydoli'r proffesiwn. Mae gennym ni ddeintyddion sy'n cyflawni gweithgareddau nad oes angen rhywun â hyfforddiant a lefel uchel uwch-ddeintydd sydd wedi cymhwyso'n llawn arnoch i'w cyflawni, ond mae'r proffesiwn wedi bod yn arafach na rhannau eraill o faes gofal sylfaenol i arallgyfeirio fel bod pobl eraill wedi'u hyfforddi ac sy'n gallu cyflawni rhai o'r gweithgareddau sydd eu hangen ym maes deintyddiaeth, gan ryddhau amser y deintydd—yr adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym ni—i wneud y pethau y gall deintydd yn unig eu gwneud. A thrwy'r corff hyfforddi sydd gennym ni, rydym ni'n cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu hyfforddi i allu gweithio ochr yn ochr â deintyddion i gynnig y mathau hynny o driniaethau. Y cyflymaf y gallwn ni wneud i hynny ddigwydd, y mwyaf o driniaethau fydd ar gael a'r mwyaf o blant fydd yn gallu derbyn deintyddiaeth GIG yn y ffordd y byddem ni'n dymuno ei weld yng Nghymru.