Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Llywydd, dim ond i fod yn glir, er mwyn cywirdeb, £18 miliwn oedd benthyciad Llywodraeth Cymru, ac roedd gyda Undeb Rygbi Cymru, nid gyda'r rhanbarthau. Mae'r ffordd y mae'r arian yn cael ei ddefnyddio yn benderfyniad i Undeb Rygbi Cymru, a nhw sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod ad-daliadau'r benthyciad yn cael eu gwneud. Roedd yn destun trafod dwys o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch a oedd yn gyfreithlon ai peidio i ni gamu i mewn i ganiatáu i URC dalu'r benthyciad a oedd ganddyn nhw gynt gyda Nat West. Yn y diwedd, cafodd y penderfyniad i wneud hynny ei ysgogi gan lawer o'r hyn y mae Sam Kurtz wedi'i ddweud yma y prynhawn yma—pwysigrwydd y gêm yma yng Nghymru a'n hymrwymiad i'w chynnal.
Ond mae'r angen i ddiwygio'r gêm ei hun yn wirioneddol, ac ni all y Llywodraeth fod yn fancwr dewis olaf sy'n cael ei ddefnyddio i atal y gêm rhag cyflawni'r camau angenrheidiol y mae'n rhaid iddi hi ei hun ymgymryd â nhw ac y mae'n gyfrifol amdanyn nhw. Nawr, rwy'n croesawu penodiad Ieuan Evans fel cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru bob amser yn hapus i weithio ochr yn ochr â'r undeb ac i fod o gymorth iddyn nhw lle gallwn ni. Ond ni all hynny fod yn rheswm iddyn nhw gamu i ffwrdd o'r meddwl dwys iawn y mae'n rhaid i'r gêm ei wneud. Ac nid dim ond yn strwythurol yw hynny, Llywydd, ac nid yw hyd yn oed yn ymwneud â'r berthynas rhwng y rhanbarthau a'r undeb ac yn y blaen, ond mae'n ymwneud â phethau fel anafiadau i'r pen, dyfodol y gêm, sicrhau ei bod yn ddeniadol i bobl ifanc fel eu bod eisiau ei chwarae. Mae gan y gêm broblemau difrifol iawn o'i blaen. Rydym ni yno i'w cefnogi lle gallwn ni, ac roedd y £18 miliwn yn arwydd difrifol iawn o'r gefnogaeth honno. Ni all hynny esgusodi'r gêm o'r gwaith difrifol y mae angen iddi ei hun ei gyflawni.