1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2022.
8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru? OQ58845
Llywydd, caiff gwerth iechyd, cymdeithasol ac economaidd chwaraeon ei gydnabod yn eang, a dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi mwy na £75 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf, drwy Chwaraeon Cymru, i gyflawni ein nodau a'n hamcanion cyffredin.
Prif Weinidog, ddoe, cafodd ochenaid o ryddhad ar y cyd ei theimlo ledled gêm broffesiynol rygbi dynion yma yng Nghymru, nid oherwydd dychweliad Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, ond oherwydd bod fframwaith chwe blynedd ar gyfer rygbi proffesiynol yng Nghymru wedi'i gytuno ar lafar. Ddydd Sul fe ryddhaodd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ddatganiad yn mynegi pryder gan fod lles chwaraewyr yn cael ei effeithio'n ddifrifol gan yr oedi o ran cytundeb hirdymor, a rhai o chwaraewyr Cymru eisoes yn llofnodi i glybiau y tu allan i Gymru er mwyn sicrhau rhywfaint o ddiogelwch swydd.
Mae cyflwr ariannol rygbi mewn sefyllfa beryglus. Y tu hwnt i Glawdd Offa, rydym ni wedi gweld Wasps a Chaerwrangon yn cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr ac yn rhoi'r gorau i fasnachu. Gan roi i'r naill ochr strwythur llywodraethu Undeb Rygbi Cymru, y dywedodd Sam Warburton ei fod yn 'sownd yn Oes y Cerrig', mae rygbi yng Nghymru, y gêm gymunedol a phroffesiynol, mewn sefyllfa anniddig. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi trafod benthyciad o £20 miliwn i bedwar rhanbarth Cymru, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na fydd ad-dalu'r benthyciadau yma'n gadael rhai o ranbarthau Cymru yn mynd yr un ffordd â naill ai Wasps neu Gaerwrangon?
Llywydd, dim ond i fod yn glir, er mwyn cywirdeb, £18 miliwn oedd benthyciad Llywodraeth Cymru, ac roedd gyda Undeb Rygbi Cymru, nid gyda'r rhanbarthau. Mae'r ffordd y mae'r arian yn cael ei ddefnyddio yn benderfyniad i Undeb Rygbi Cymru, a nhw sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod ad-daliadau'r benthyciad yn cael eu gwneud. Roedd yn destun trafod dwys o fewn Llywodraeth Cymru ynghylch a oedd yn gyfreithlon ai peidio i ni gamu i mewn i ganiatáu i URC dalu'r benthyciad a oedd ganddyn nhw gynt gyda Nat West. Yn y diwedd, cafodd y penderfyniad i wneud hynny ei ysgogi gan lawer o'r hyn y mae Sam Kurtz wedi'i ddweud yma y prynhawn yma—pwysigrwydd y gêm yma yng Nghymru a'n hymrwymiad i'w chynnal.
Ond mae'r angen i ddiwygio'r gêm ei hun yn wirioneddol, ac ni all y Llywodraeth fod yn fancwr dewis olaf sy'n cael ei ddefnyddio i atal y gêm rhag cyflawni'r camau angenrheidiol y mae'n rhaid iddi hi ei hun ymgymryd â nhw ac y mae'n gyfrifol amdanyn nhw. Nawr, rwy'n croesawu penodiad Ieuan Evans fel cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru bob amser yn hapus i weithio ochr yn ochr â'r undeb ac i fod o gymorth iddyn nhw lle gallwn ni. Ond ni all hynny fod yn rheswm iddyn nhw gamu i ffwrdd o'r meddwl dwys iawn y mae'n rhaid i'r gêm ei wneud. Ac nid dim ond yn strwythurol yw hynny, Llywydd, ac nid yw hyd yn oed yn ymwneud â'r berthynas rhwng y rhanbarthau a'r undeb ac yn y blaen, ond mae'n ymwneud â phethau fel anafiadau i'r pen, dyfodol y gêm, sicrhau ei bod yn ddeniadol i bobl ifanc fel eu bod eisiau ei chwarae. Mae gan y gêm broblemau difrifol iawn o'i blaen. Rydym ni yno i'w cefnogi lle gallwn ni, ac roedd y £18 miliwn yn arwydd difrifol iawn o'r gefnogaeth honno. Ni all hynny esgusodi'r gêm o'r gwaith difrifol y mae angen iddi ei hun ei gyflawni.
Diolch i'r Prif Weinidog.