Gofal Iechyd Preifat

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 6 Rhagfyr 2022

Wel, Llywydd, fel mae'r Aelod yn gwybod, mae'n amhosib i fi ymateb i achos ble dwi'n clywed am y manylion am y tro cyntaf yn y Siambr. Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, dwi eisiau gweld gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru ble mae'n gallu rhoi gwasanaethau i bobl mewn ffordd brydlon, ymhob agwedd o'r gwasanaeth.