Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Mae'r Bil yma, fel rŷn ni newydd glywed, wrth gwrs, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod ei daith drwy'r Senedd, ond mae e hefyd wedi bod ychydig yn ddadleuol oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi mynnu defnyddio proses graffu gyflym ar ei gyfer. Nawr, dwi ddim yn awgrymu bod gweithdrefnau'r Senedd wedi cael eu camddefnyddio, ond mae'r hyn rŷn ni wedi'i weld ymhell o fod yn arfer da.
Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn pryderu bod gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil wedi cael ei osgoi. Er bod y pwyllgor wedi gallu cynnal rhywfaint o waith craffu ar Fil drafft, doedd hyn ddim yn ddigonol o ran disodli gwaith craffu yng Nghyfnod 1, a phe na baem wedi gwneud y gwaith hwnnw, yna fydden ni ddim wedi cael ymgynghoriad cyhoeddus ar ddarpariaethau manwl y Bil, na chyfle, wrth gwrs, i'r rhai sy'n cael eu heffeithio arnyn nhw gan y cynigion yn y Bil i ddweud eu dweud.
Ond nid y pwyllgor newid hinsawdd oedd yr unig bwyllgor, wrth gwrs, i fynegi pryderon. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi mynegi siom am y ffaith nad yw'r Gweinidog wedi gallu darparu'r wybodaeth ariannol y gofynnodd amdani. Awgrymodd y Gweinidog y gallai gymryd o leiaf chwe mis i swyddogion gwblhau'r gwaith hwn. Fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi nodi yn ei lythyr at y Prif Weinidog, bydd y Bil wedi cwblhau ei daith ddeddfwriaethol drwy'r Senedd cyn bod y wybodaeth ariannol bwysig hon ar gael, a dwi'n cytuno â'r Cadeirydd am y ffaith nad yw hyn yn ddigon da.
Fe wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad godi nifer o bryderon hefyd am y broses gyflym y mae'r Bil hwn wedi'i dilyn. Mae'r Gweinidog wedi dweud mai'r bwriad yw y bydd yr holl ddarpariaethau yn y Bil yn cael eu cychwyn erbyn Ebrill 2026. Mae Cadeirydd y pwyllgor wedi cwestiynu, a hynny'n briodol, a oes angen proses gyflym ar y sail honno. Mae'r broses gyflym hon yn rhan bwysig o'n gweithdrefnau ni, wrth gwrs, a bydd adegau pan fydd angen ei defnyddio. Serch hynny, dim ond pan fydd hi'n angenrheidiol y dylai'r broses hon gael ei defnyddio, nid oherwydd ei bod hi'n gyfleus. Dylai gwaith craffu ar ddeddfwriaeth gael ei weld gan y Llywodraeth fel rhan sylfaenol o'r broses ddeddfu, nid fel rhywbeth y mae angen ei oddef neu, yn achos y Bil yma, ei osgoi.
Wedi dweud hynny, dwi, fel bron iawn bawb arall, dwi'n siŵr, yn gobeithio bydd y Bil hwn yn cael ei basio, ond dwi yn credu y dylai'r Gweinidog a'r Prif Weinidog fyfyrio ar ddigonolrwydd y broses a arweiniodd at ddod â ni i'r man yna. Diolch.