9. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:03 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:03, 6 Rhagfyr 2022

Mae hwn yn gam pwysig tuag at ein hamcan fel Senedd i warchod natur, bioamrywiaeth a lleihau ein dibyniaeth ar adnoddau anadnewyddadwy. Tair blynedd yn ôl, fe wnes i alw mewn araith am ddeddfwriaeth i wahardd plastig defnydd untro, a dyma ni heddiw yn troi’r dyhead—nid dim ond gennyf i, ond dyhead cymaint ohonom—yn realiti. Mae’n dangos beth sy’n bosibl pan fydd y Senedd hon yn cydweithio er mwyn ceisio creu dyfodol gwell.

Mae’n dangos hefyd fod gan y Senedd y gallu i ddeddfu’n gymharol gyflym pan fo'n rhaid. Nawr, rwy'n gwybod bod yna gymhlethdodau wedi bod, ond rwyf i'n meddwl hefyd fod yna wersi i'w cael fanna yn dangos mai ewyllys gwleidyddol sy'n cael y maen i'r wal yn y pen draw.

Wrth gwrs, mae yna rai pethau buaswn i wedi hoffi eu gweld yn cryfhau'r Bil ymhellach, ond mae hwn yn gam mor bwysig ymlaen. Hoffwn i ddiolch i'r sefydliadau wnaeth roi tystiolaeth i ni fel pwyllgor, i Gadeirydd y pwyllgor, i'r tîm clercio ac i'r Gweinidog am fod mor barod i gydweithio pan oedd cyfle i wneud. Mae Senedd Cymru yn cydnabod ei dyletswydd i genedlaethau’r dyfodol a’r byd o’n cwmpas trwy'r ddeddfwriaeth yma. Sylweddoliad dyletswydd yw gweithredu. Bydd pasio'r mesur hwn fel Deddf yn clirio cydwybod ein cenedl rywfaint, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud eto. Boed inni beidio gorffwys ar ein rhwyfau wedi hyn. Boed inni ddefnyddio'r Ddeddf hon fel astell ddeifio, fel springboard, er mwyn gwneud popeth rŷn ni'n gallu i warchod ein dyfodol ni a chenedlaethau i ddod. Diolch.