Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Mae osteoporosis yn effeithio ar lawer ohonom ni a llawer o'n hetholwyr, ac yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig.