2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 2:44, 6 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, os gwelwch yn dda a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd am y gwasanaeth cyswllt toresgyrn yma yng Nghymru? Mae osteoporosis—rydym ni'n aml yn clywed amdano yma yn y Siambr—sy'n gallu achosi esgyrn i dorri drwy beswch neu hyd yn oed drwy gofleidio'r wyrion, yn effeithio ar fwy na 180,000 o bobl yng Nghymru ac yn costio £4.6 biliwn y flwyddyn i wasanaeth iechyd y DU. Yn drasig, mae cymaint o bobl yn marw o achosion sy'n gysylltiedig â thoresgyrn â chanser yr ysgyfaint neu, mewn gwirionedd, diabetes. Fodd bynnag, gall gwasanaeth cyswllt toresgyrn helpu i drawsnewid ansawdd bywyd pobl hŷn yng Nghymru a datgloi rhai arbedion sylweddol i'n GIG. Fel y mae, dim ond 66 y cant o bobl yng Nghymru dros 50 oed sy'n cael y cyfle i fanteisio ar wasanaeth cyswllt toresgyrn, o'i gymharu â 100 y cant o bobl yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu bod miloedd o bobl mewn ardaloedd heb wasanaeth yn cael toriadau wedi'u cywiro ac yna'n anghofio  amdanyn nhw heb i'w osteoporosis sylfaenol gael diagnosis a thriniaeth, a hoffwn i wybod, yn amlwg—. Lle mae gwasanaeth cyswllt toresgyrn eisoes ar waith, mae tanberfformio eang o ran nodi a monitro cleifion a gwaith dilynol. Gall ymestyn gwasanaethau a chodi'r ansawdd ryddhau 73,000 o welyau ysbyty acíwt a 16,500 o ddiwrnodau gwely adsefydlu, yr amcangyfrifir eu bod yn cael eu cymryd gan gleifion sydd wedi torri clun yn ystod y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â darparu arbedion enfawr, y soniais i amdanyn nhw. Felly, byddai buddsoddiad blynyddol cymedrol o £2 filiwn wrth godi nifer ac ansawdd y gwasanaethau cyswllt toresgyrn i gynnwys pawb dros 50 yn sicrhau budd o £36 miliwn dros bum mlynedd. Mae wir gennym ni gyfle yma, Gweinidog, i wella bywydau miloedd o bobl ledled Cymru, ac fe fydd arbedion o'r fath, rwy'n siŵr, yn cael eu croesawu gan Lywodraeth Cymru. Felly, byddai datganiad gan y Gweinidog iechyd am fuddsoddi yn y gwasanaeth penodol hwn yn cael ei werthfawrogi'n fawr.