– Senedd Cymru am 2:56 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar newid hinsawdd a'r datganiad terfynol ar gyllideb garbon 1. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Llywydd, fis diwethaf, daeth arweinwyr y byd at ei gilydd yn COP27 i ganolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd. Yn dilyn trafodaethau anodd, roedd yna obaith a siom fel ei gilydd. Roedd gobaith yn y cytundeb i'r gwledydd datblygedig greu cronfa mor gynnar â'r flwyddyn nesaf i dalu am unrhyw golledion a difrod. Bydd y gronfa yn cefnogi'r gwledydd a'r cymunedau mwyaf agored i niwed yn eu brwydrau gydag effeithiau newid hinsawdd. Ond fe ddaeth siom o beidio â gwneud rhagor o gynnydd ar ddileu tanwyddau ffosil yn raddol, yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru iddo yn COP26 drwy ymuno â'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy.
Yr wythnos hon yw dechrau COP15, nid COP hinsawdd, ond COP bioamrywiaeth, y byddaf i'n bresennol ynddi. Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur wedi eu plethu ynghyd ac nid argyfyngau byd-eang pell i ffwrdd yn y dyfodol mohonyn nhw. Mae'r argyfwng cyfunol hwn ar ein gwarthaf eisoes, ac mae'n rhaid i'n gweledigaeth, ein huchelgais a'n gweithredoedd lunio dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bawb ohonom ni.
Ym mis Mehefin, gwnaeth fy natganiad ysgrifenedig i'r Senedd dynnu sylw at gyhoeddi'r data diweddaraf ar allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn y datganiad, roeddwn i'n dweud bod y data crai yn dangos ein bod ni wedi cyrraedd ein targedau cyllideb garbon 1. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi ein datganiad deddfwriaethol terfynol hefyd ar gyfer ein cyfnod cyllidebol cyntaf ym mis Rhagfyr. Heddiw, rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni'r gyllideb garbon gyntaf a tharged dros dro 2020 i leihau allyriadau. Yn dilyn cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, fe wnaethom ni bennu targed dros dro ar gyfer 2020 sef gostyngiad o 27 y cant mewn allyriadau o'i gymharu â'n blwyddyn waelodlin sef 1990. Gwelodd ein cyfrif allyriadau Cymru net terfynol ar gyfer targed interim 2020 ostyngiad o 39 y cant. Felly, mae targed dros dro 2020 nid yn unig wedi'i gyrraedd ond rhagorwyd arno hefyd. Gosodwyd y gyllideb garbon gyntaf ar ostyngiad o 23 y cant o ran gostwng allyriadau cyfartalog o'i gymharu â'n blwyddyn waelodlin. Gwelwyd gostyngiad o 28 y cant yng nghyfrif allyriadau net terfynol Cymru. Felly, cyrhaeddwyd a rhagorwyd ar ein cyllideb garbon gyntaf hefyd.
Rwy'n cyhoeddi felly 'ddatganiad terfynol' Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol a'r flwyddyn dros dro fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Y datganiad terfynol hwn yw'r cyntaf o'i fath i Gymru ac mae'n adroddiad ffeithiol sy'n edrych yn ôl ar gyllideb garbon 1. Mae'n nodi ein methodoleg gyfrifyddu a'r rhesymau pam y gwnaethom ni gyrraedd ein targedau. Yn bwysig iawn, mae'r datganiad terfynol yn cynnwys atodiad sy'n amcangyfrif ôl troed allyriadau defnydd Cymru ar gyfer cyfnod y gyllideb carbon. Rydym ni'n amcangyfrif bod allyriadau defnydd wedi amrywio ychydig, gyda chynnydd bach o tua 2 y cant, dros gyfnod y gyllideb y mae'r data ar gael ar ei gyfer. Er hynny, yn gyffredinol ers 2001, mae'r flwyddyn gyntaf o ddata sydd ar gael, mae'r amcangyfrifon o allyriadau defnydd wedi dangos tuedd gyffredinol sy'n gostwng, gan ostwng tua 27 y cant. Oherwydd yr ystadegau a oedd ar gael, ni fu'n bosibl cyfrifo'r ôl troed ar gyfer cyfnod y gyllideb gyfan. Mae'r adroddiad yn ymdrin â chyfnod 2016-19 ac fe fydd diweddariad felly i'r atodiad yn 2023 ar ôl i'r data gael eu derbyn a'u dadansoddi. Er bod y datganiad hwn yn gadarnhaol, rwy'n cydnabod bod heriau o'n blaenau ni, ac mae angen i ni wneud llawer mwy i gyflawni ein hail gyllideb garbon ar gyfer 2021-26. Nid nawr yw'r amser i laesu dwylo, ac mae'n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gyflawni Cymru Sero Net.
Rwy'n falch felly o roi gwybod i'r Senedd hefyd y byddaf i'n lansio galwad am dystiolaeth ar drawsnewid cyfiawn tuag at sero net yng Nghymru. Roedd ein polisi cyntaf yn Cymru Sero Net yn ymrwymo i drosglwyddo i sero net gyda chyfiawnder cymdeithasol wrth hanfod hynny. Rydym ni bellach yn chwilio am dystiolaeth i nodi lle gallai effeithiau negyddol a chyfleoedd ymddangos a lle gallent grynhoi. Ein nod yw casglu'r dystiolaeth ar arfer gorau. Rydym ni'n chwilio hefyd am dystiolaeth o angen i'n cymunedau, ein heconomi a'n seilwaith, er mwyn i ni weld lle gellir targedu cymorth i sicrhau trosglwyddiad cyfiawn. Heddiw, mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi 'Cynllun Strategol Sero Net Llywodraeth Cymru', a fydd yn amlinellu sut mae'r sefydliad hwn yn bwriadu cyrraedd sero net, ac fe fydd Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi cynllun sgiliau sero net y flwyddyn nesaf. Mae'r rhain i gyd yn gamau gweithredu pwysig yn Cymru Sero Net.
Wrth gwrs, mae'r hinsawdd eisoes yn newid fel mae'r achosion cynyddol o dywydd dinistriol yn profi yn fyd-eang. Maen nhw'n ein hatgoffa mewn ffordd sobreiddiol, yn ogystal â lleihau allyriadau, fod angen i ni feithrin cydnerthedd i hinsawdd sy'n newid hefyd. Mae newid hinsawdd yn dod â risgiau i'n cymunedau, ein seilwaith, ein hadnoddau naturiol a'n hiechyd y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw. Felly, yn olaf, heddiw, rwy'n falch o roi gwybod i'r Senedd fy mod i'n cyhoeddi adroddiad cynnydd ar ein cynllun addasu newid hinsawdd cenedlaethol pum mlynedd presennol, 'Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd'. Mae'r adroddiad yn dangos y gwaith enfawr yr ydym ni'n ei wneud eisoes i fynd i'r afael â'r risgiau sy'n deillio o newid hinsawdd, ond, fel yn achos ein hymdrechion i liniaru'r hinsawdd, mae'n rhaid i ni wneud rhagor, ac fe wnawn ni hynny.
Mae ein gwerthoedd a'n hegwyddorion arweiniol a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn rhoi cyfiawnder cymdeithasol a'r argyfwng hinsawdd wrth wraidd ein camau ar gyfer y tymor hwn o'r Senedd, ac mae o'r pwys mwyaf i mi ein bod ni'n cyflawni ar gyfer pobl Cymru a dyfodol ein plant. O ran cyhoeddiadau heddiw, mae'r gwaith gwirio a chysodi terfynol yn cael ei wneud a chaiff y dogfennau terfynol eu gosod gerbron Senedd Cymru a'u huwchlwytho i'r wefan erbyn diwedd y tymor hwn. Diolch.
Fe hoffwn i ddechrau drwy longyfarch pobl Cymru, a diolch i chi am y datganiad, Gweinidog. Mae hi wedi cymryd ymdrech ledled y wlad i gyflawni'r gyllideb garbon gyntaf a tharged dros dro lleihau allyriadau 2020, ac, o'r herwydd, fe ddylai pawb sy'n rhan o hyn fod yn falch. 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel' oedd eich cynllun ar gyfer cyflawni cyllideb garbon y cynllun cyntaf 2016-20 a tharged dros dro 2020. Roedd yn cynnwys 100 o bolisïau a chynigion ar draws portffolios gweinidogol. Fodd bynnag, rydym ni'n gwybod mai'r sector ynni oedd yn dominyddu'r gostyngiadau, a oedd yn gyfrifol am 85 y cant o gyfanswm y gostyngiad mewn allyriadau rhwng 2016 a 2018. Yn wir, fe gyfrannodd arafu a chau gorsaf bŵer glo Aberddawan hyd at 55 y cant o gyfanswm y gostyngiad o ran allyriadau rhwng 2016 a 2020. Felly, gan gofio'r orddibyniaeth a fu hyd yn hyn ar ostyngiadau yn y sector ynni, a wnewch chi roi diweddariad inni ar a ydym ni'n gweld patrwm o'r fath yn ystod y gyllideb garbon bresennol, ac, os felly, pa gamau brys fydd yn cael eu cymryd i geisio cyflawni gostyngiadau eang?
Fel gwyddoch chi, roedd 'Cyllideb Garbon 2 Cymru Sero Net (2021 i 2025)' yn nodi 123 o bolisïau a chynigion gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi dweud y byddwch chi'n cyhoeddi adroddiad cynnydd ar eich cynllun addasu newid hinsawdd cenedlaethol pum mlynedd cyfredol chi, ond a wnewch chi amlinellu heddiw faint o'r 123 o bolisïau a chynigion sydd ar eu ffordd i gael eu gweithredu hyd yn hyn? Dim ond drwy ystyried y darlun ehangach hwn ac ysgwyddo ein cyfrifoldeb byd-eang y gallwn ni wir ddiogelu ein byd gwerthfawr er mwyn cenedlaethau'r dyfodol.
Roedd adroddiad 2020 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, 'Land use: Policies for a Net Zero UK', yn amlygu na ddylai allyriadau amaethyddol gael eu hanfon dramor. Rwy'n dyfynnu:
'Ni ddylai cyflawni lleihad allyriadau fod ar draul cynhyrchu llai o fwyd yn y DU a chynyddu mewnforion. Gan fod y DU yn gynhyrchydd nwy tŷ gwydr cymharol isel o gig cnoi cil'— o gymharu â chyfartaleddau byd-eang—
'mae hyn yn peryglu allforio allyriadau dramor a chynyddu allyriadau defnydd.'
Nawr, ar 9 Tachwedd, pleidleisiodd y Senedd Cymru hon yn unfrydol o blaid cynnig a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru, er enghraifft, i ddatblygu system fwyd fwy hunangynhaliol i Gymru, gan ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu gofyniad i gadwyni cyflenwi fod yn rhydd o ddatgoedwigo, trosi a chamfanteisio cymdeithasol yn rhan o'r newid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy a gynhyrchir yn lleol, a chefnogi ffermwyr Cymru hefyd i ddileu porthiant da byw sy'n cael ei fewnforio sy'n gysylltiedig â datgoedwigo a thrawsnewid cynefinoedd dramor, a chefnogi prosiectau a mentrau rhyngwladol hefyd gyda'r nod o warchod ac adfer coedwigoedd yn y prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau.
Felly, fy nghwestiwn olaf i, Gweinidog: pa gynnydd ydych chi wedi'i wneud o ran y camau hynny y gwnaethom ni bleidleisio i chi ymgymryd â nhw? Ac o gofio'r hyn yr ydym ni'n ei wybod nawr am yr allyriadau sy'n cael eu hachosi gan Gymru drwy'r nwyddau a'r gwasanaethau yr ydym ni'n eu defnyddio, pa brosiectau fyddwch chi'n eu cefnogi yn y prif wledydd sy'n cynhyrchu nwyddau? Pa gynnydd ydych chi wedi'i wneud o ran sefydlu ffordd o ddehongli'r targed 30x30? Diolch i chi. Diolch.
Diolch i chi, Janet. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi fod llawer o'r hyn y gwnaethom ni ei gyflawni, wrth gwrs, yn bosibl drwy gydweithio â phobl a chymunedau Cymru, ac mae hynny'n golygu cymunedau mewn ystyr ddaearyddol ond hefyd cymunedau o fuddiant hefyd fel, er enghraifft, ein busnesau, ein diwydiannau, ein sector amaethyddol ac yn y blaen. Felly, rwy'n ymuno yn gyfan gwbl â chi yn hynny—fe fyddwn i'n gwneud hynny yn uwch, ond, fel y gallwch chi glywed, rwyf cael ychydig o drafferth gyda fy llais heddiw.
O ran allyriadau'r sector, mae gennym ni bum sector—felly, ynni, trafnidiaeth, diwydiant, gwastraff a nwyon wedi'u fflworideiddio—sydd wedi gweld gostyngiadau mawr yn eu hallyriadau dros y cyfnod. Rydych chi'n hollol iawn fod hynny wedi digwydd i ryw raddau oherwydd ein bod ni wedi cau gorsaf bŵer Aberddawan, ac mae hynny, wrth reswm, yn gwneud hi'n bwysicach fyth ein bod ni'n llwyddo i gau gweddill y gorsafoedd pŵer tanwydd ffosil, gan gynnwys y pwerdai nwy yng Nghymru, cyn gynted ag y bo hynny'n bosibl. Ac felly, sicrhau ein bod yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd ynni adnewyddadwy ledled Cymru yw'r sefyllfa y mae angen i ni fod ynddi hi.
Felly, mae dau sector, mewn adeiladau ac amaethyddiaeth, wedi gweld newid mwy cyfyngedig o ran allyriadau dros y cyfnod. Mae'r—rwy'n gorfod chwiolio am hwn bob tro—LUCF, sef y sector newid tir a choedwigaeth, wedi gweld gostyngiad sylweddol ym maint y ddalfa y mae'n ei darparu dros y cyfnod, er ei bod yn parhau i fod yn ddalfa ac wedi cyflawni'r cyfraniad disgwyliedig.
Mae'r gostyngiadau mewn allyriadau yn cael eu hysgogi gan batrymau sy'n newid o ran gweithgareddau defnyddio a chynhyrchu yng Nghymru, sy'n cael eu holrhain gan 57 o'r dangosyddion haen 2. Fe wnaethoch chi ofyn i mi pa rai oedd ar darged a pha rai nad oedd. Mae dau ddeg wyth o'r dangosyddion gweithgaredd yn wyrdd, gan gynnwys cynnydd mawr yn y gyfran o gynhyrchu trydan o ynni adnewyddadwy, gostyngiadau mawr yng nghyfran y gwastraff a anfonwyd i safleoedd tirlenwi a gostyngiad sylweddol yn nefnydd trafnidiaeth o ynni a defnydd ynni diwydiannol.
Y sectorau a welodd y cyfrannau uchaf o ddangosyddion haen 2 â sgôr gwyrdd oedd ynni ar 89 y cant, am y rhesymau yr ydym ni newydd eu trafod; gwastraff ar 75 y cant, o ganlyniad i berfformiad disglair Cymru o ran ailgylchu, unwaith eto diolch i bobl Cymru; ac yn y sector cyhoeddus, a ysgogwyd gan ein huchelgais i'r sector cyhoeddus ddatgarboneiddio erbyn 2030. O'r dangosyddion gweithgaredd sy'n weddill, roedd saith yn goch, 11 yn ambr ac nid oedd modd graddio 11.
Y sectorau a welodd y cyfrannau isaf o ddangosyddion haen 2 â sgôr gwyrdd oedd y sectorau newid defnydd tir a choedwigaeth, adeiladau ac amaethyddiaeth. Felly, mae adeiladau wedi gwneud yn arbennig o wael ac ar 17 y cant yn unig y mae amaethyddiaeth. Yr hyn a ddywed hynny wrthym ni, Janet, yw bod angen taro'r cydbwysedd unwaith eto, i ryw raddau, o ran ein dulliau ni o fynd i'r afael â rhai o'r pethau hyn.
Nid diben hyn mewn unrhyw ffordd yw dwrdio ein ffermwyr, er enghraifft, ond mewn amaethyddiaeth, os edrychwn ni ar hynny ar ei ben ei hun, rydym ni wedi gweld nifer o gynlluniau i gefnogi ffermwyr trwy'r rhaglen datblygu cig coch, rhaglen gwella cynhyrchion llaeth, grant cynhyrchu cynaliadwy a Chyswllt Ffermio. Cafwyd cynnydd o 6 y cant yng nghyfanswm arwynebedd tir amaethyddol rhwng 2016 a 2020, a gostyngiad bychan yn arwynebedd tir amaethyddol rhwng 2018 a 2020, ond fe gynyddodd yr allbwn fesul hectar gan dir 3 y cant. Felly, mae yna rai ystadegau cymhleth iawn yn gysylltiedig â hyn.
Bu cyflawniadau o ran rhai meysydd polisi allweddol, ac mae allyriadau wedi gostwng yn gyffredinol dros gyfnod y gyllideb garbon 1, ond nid yw allyriadau wedi gostwng ar y gyfradd a ragwelwyd ar lwybr y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac nid yw'r cyfraniad disgwyliedig, felly, yn ôl llwybr 2020 wedi cael ei fodloni eto. Ond wedi dweud hynny, y rheswm y gwnaethom ni gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy yw i helpu ein sector amaethyddol i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i gyrraedd sefyllfa foddhaol.
Y sector arall yw adeiladau, ac rwy'n rhagweld y bydd fy nghydweithiwr i fy ffrind Jenny Rathbone yn gofyn i mi yn y man, felly rwyf am roi'r ateb i hynny iddi hi, ond, yn y bôn, mae angen i ni wneud llawer mwy i ôl-osod ein hadeiladau hefyd. Diolch.
Gweinidog, mae'n ddrwg gen i glywed eich bod chi'n anhwylus; gobeithio y byddwch chi'n teimlo yn well yn fuan. Mae hon, yn wir, yn foment bwysig ac mae angen ei dathlu; er bod hynny'n anghydnaws, wrth gwrs, wrth edrych ar y darlun llwm iawn a welwn ni'n fyd-eang, yn fy marn i, yn amlwg, byddai hi'n esgeulus i ni beidio â gwneud hynny. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi dod i'r casgliad nad oes llwybrau credadwy ar waith ar hyn o bryd o leiaf i gyfyngu ar wresogi byd-eang hyd i lai na 1.5 gradd, ac mae'r angen i gyflymu cynlluniau datgarboneiddio mor enbydus oherwydd hynny. Rwy'n credu bod y trychineb aruthrol hwn ar y naill law a'r ffenestr gyfle sydd gennym ni mor fach, a'r gwahaniaeth rhwng y ddau beth yna sydd mor gignoeth.
Rwy'n falch, oherwydd y cytundeb cydweithredu, ein bod ni wedi helpu i sicrhau mwy o bosibilrwydd o gyrraedd sero net erbyn 2035. Rwy'n falch o'r ymrwymiad i sefydlu Ynni Cymru, ond eto, yn gefndir i hyn yn fyd-eang, ac yn ddomestig hefyd, mewn gwirionedd—mae tueddiadau pryderus yn nes at adref, fel yr arafiad ers 2015 o ran datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, yr argyfwng costau byw, sydd ag effaith ar bob elfen o bolisi, y cyfyngiadau ar gapasiti ein grid, a'r ffaith ein bod yn disgwyl o hyd am fwy o ddatganoli pwerau dros y rhwydwaith rheilffyrdd a rheolaeth ar Ystad y Goron. Gweinidog, a wnewch chi roi diweddariad, os gwelwch yn dda, ar grid ynni Cymru yn y dyfodol ar gyfer prosiect sero net, a dweud wrthym ni a oes unrhyw gynnydd wedi bod o ran mynd i'r afael â'r arafiad yn natblygiad ynni adnewyddadwy ers 2015? Fe fyddwn i'n ddiolchgar i gael gwybod a yw Llywodraeth Cymru, yn enwedig ers mis Mehefin eleni, wedi codi mater diffyg capasiti y grid yng Nghymru yn y fforymau rhyng-weinidogol perthnasol, ac os felly, beth fu'r ymateb i hynny, os gwelwch chi'n dda?
Yn ogystal â hynny, rwy'n gwybod ynglŷn â chynllun sero net Cymru, mae modelu Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod Cymru ar y trywydd iawn—ac fe gododd hyn eisoes—i fodloni cyllideb garbon 2; mae gostyngiad o 37 y cant yn hynny, ac fe fydd yn sicrhau gostyngiad o 44 y cant yn erbyn y waelodlin. Rydych chi wedi ymrwymo i gynllun a ddiweddarwyd i wella'r gyllideb ac rydych chi'n ystyried asesiadau o effaith penderfyniadau gwario o ran carbon trwy hynny, a sut y gellid eu gwneud nhw'n fwy cadarn. A wnewch chi egluro, os gwelwch yn dda, Gweinidog, a yw'r ergydion disgwyliedig i allu eich Llywodraeth chi i wario ar wahanol bethau oherwydd yr argyfwng costau byw hwn yn cael unrhyw effaith ar y cynllun i wella'r gyllideb?
O ran targedau trafnidiaeth, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno bod diffyg datganoli'r maes hwn yn llwyr i Gymru yn amharu ar ein hymdrechion i gyrraedd y targedau o ran lleihau defnydd o geir ac ati, a bod y ffaith nad yw hyn wedi'i ddatganoli, wedi'r cyfan, wedi atal datblygiad rhwydwaith rheilffyrdd effeithiol ledled Cymru, ac rydym ni wedi colli allan ar arian mawr mewn cyllid canlyniadol Barnett o gynllun rheilffordd HS2?
Mae yna un pwnc yr hoffwn ei gwmpasu yn gryno i gloi—fe gododd hwnnw'n barod—sef defnydd tir. Rwy'n gwybod bod gan y Llywodraeth gynlluniau i gynyddu cyfraddau creu coetiroedd yn sylweddol erbyn 2050; rwy'n nodi'r pryder a godwyd eisoes ynglŷn â hyn, ynglŷn â'r gostyngiad o ran dal carbon o ddefnydd tir rhwng 2019 a 2020. Rwyf innau am ategu'r pryder a fynegwyd eisoes ynglŷn â hynny. Ni fyddwn i'n dymuno i'r Gweinidog orfod ailadrodd y mae hi wedi'i ddweud eisoes, ond a oes unrhyw beth pellach yr hoffai hi ei ddweud ynglŷn â hynny, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni a wnaethpwyd unrhyw asesiad o'r goblygiadau yng Nghymru yn sgil cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer eu proses arfarnu rheoliadau cynefinoedd, os gwelwch chi'n dda? Diolch.
Ie, diolch yn fawr iawn i chi, Delyth, am y gyfres yna o bethau. Felly, gan fynd drwyddyn nhw yn eu trefn, ydym, rydym ni'n bendant yn codi'r materion ynglŷn â'r grid bob un tro y byddaf i'n cwrdd ag unrhyw un sy'n berthnasol iddo mewn grŵp gweinidogol—rydym ni'n ei godi. Rwyf i yn y ciw i weld y Gweinidog ynni newydd. Rwy'n gobeithio y bydd yn aros yn y swydd yn ddigon hir i mi weld yr un hwn mewn gwirionedd—gadawodd yr un olaf ei swydd cyn i mi ei weld. Rydym ni'n chwilio am sicrwydd y bydd y dyluniad rhwydwaith cyfannol a gafodd ei drafod gyda'r Gweinidog, flynyddoedd yn ôl erbyn hyn, mae'n ymddangos, ond dim ond ychydig fisoedd yn ôl yr oedd hi, yn digwydd i Gymru. Rydym ni wedi trafod yn y Siambr hon lawer gwaith pam mae angen i'r dyluniad rhwydwaith hwnnw i fynd yn ei flaen a pham mae angen uwchraddio'r grid. Mae hi'n berffaith wir, ac mae pob un datblygwr adnewyddadwy yr ydym ni'n siarad â nhw, ac Ystad y Goron eu hunain, yn cytuno â ni ynglŷn â hyn, os ydym ni'n bwriadu symud cynhyrchiant sylweddol iawn o allu gigawat o'r môr Celtaidd i dir y de, ac mae gwir angen i ni wneud hynny, yna mae angen y capasiti grid hwnnw er mwyn i ni allu gwneud hynny. Rydym ni'n gwthio yn frwdfrydig iawn i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, ac fe fydd yna nifer o gyfarfodydd bord gron ac ymyriadau y byddwn ni'n cymryd rhan ynddyn nhw, ac yn wir yn eu cynnal, ym mis Ionawr a mis Chwefror y flwyddyn nesaf, i geisio sicrhau mai ni yw'r rhai sy'n symud gyntaf mewn rhai o'r meysydd hynny, ac yn sicrhau bod ein porthladdoedd ni mewn sefyllfa ragorol i allu manteisio ar yr hyn a fydd yn gyfle o bwys.
O ran yr argyfwng costau byw, mae hwn yn peri penbleth yn fyd-eang, on'd yw e? Felly, rydym ni'n ceisio rhoi arian ym mhocedi pobl yn y byrdymor ar gyfer ymdopi â'r argyfwng costau byw, oherwydd yn syml, ni all rhai pobl gadw dau ben llinyn ynghyd, ac ar yr un pryd rydym, wrth gwrs, yn hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac addasiadau hefyd, felly os yw eich tŷ chi mewn cyflwr da, po fwyaf y mae wedi'i addasu ar gyfer cadernid hinsawdd, y lleiaf o ynni y byddwch chi'n ei ddefnyddio, a'r mwyaf o arian sydd gennych chi yn eich poced. Os oeddech chi'n ddigon ffodus i allu fforddio gosod paneli solar ar eich to, yna rydych chi'n cael budd o hynny.
Rydym ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU hefyd, a dweud y gwir, i symud oddi wrth eu marchnad hurt nhw sy'n seiliedig ar bris ymylol nwy, a gwahanu'r farchnad ynni adnewyddadwy oddi wrth hynny. Yn hytrach, yn anffodus, maen nhw wedi cynnig cynllun i godi treth ffawddelw ar y cwmnïau adnewyddadwy, sy'n ymddangos yn hollol—. Wel, nid dyna y byddem ni'n ei wneud, mae hynny'n sicr. Rydym ni'n parhau i bwyso am hynny drwy'r amser ac yn amlwg, mae'r cwmnïau ynni adnewyddadwy yn gwneud hynny hefyd. Ond mae hynny o gwmpas arfordir Prydain i gyd. Mae gan Gymru adnoddau gwych o ran ynni adnewyddadwy, ond, mewn gwirionedd, mae gan Brydain i gyd gyfleoedd ynni adnewyddadwy gwych, felly nid yw hi'n gwneud unrhyw synnwyr i mi nad yw'r Llywodraeth, sy'n cael ei rhedeg fel Llywodraeth i Loegr yn hynny o beth, yn gweld y cyfle ar gyfer hynny. Rydym ni'n sicr yn pwyso am hynny, ac roeddwn i mewn grŵp rhyng-weinidogol ddydd Llun lle'r oedd hwnnw ymhlith y pethau a gafodd eu trafod.
Y peth arall a drafodwyd oedd y bygythiad i'r rheoliadau cynefinoedd—Bil yr UE. Fe gawsom ni sicrwydd gan y Gweinidog a oedd yn y cyfarfod hwnnw—. Yn anffodus, nid Thérèse Coffey oedd yno, ac fe hoffwn i ei rhoi hi ar y cofnod, Dirprwy Lywydd, y byddem ni'n dymuno i'r Ysgrifennydd Gwladol fod yn bresennol, mewn gwirionedd, yn y cyfarfodydd, ac nid anfon Gweinidogion iau. Ond roedd y Gweinidog a oedd yno'n pwysleisio yn fawr wrth ddweud wrthym ni mai'r rhagdybiaeth yw y bydd pethau yn aros yn eu lle oni bai bod unrhyw reswm dilys iddyn nhw beidio â bod felly. Mae hi'n anodd iawn deall pa reswm dilys a fyddai'n golygu peidio â chadw at y gyfarwyddeb cynefinoedd. Serch hynny, fe fyddwn ni'n cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd, oherwydd fel arall fe fydd yn rhaid i ni ymgymryd â rhaglen gyflym iawn i wneud yn siŵr y bydd y rheoliadau cynefinoedd hynny yn aros yn weithredol yng Nghymru. Ond fe allaf i eich sicrhau chi mai dyna yw ein bwriad ni.
O ran defnydd tir, un o'r rhesymau yr wyf i am fynd i COP15 yw am fod bioamrywiaeth yn dibynnu yn llwyr ar ein gallu ni i ddefnyddio tir yn y ffordd orau. Nid coedwigoedd yn unig yw'r dalfeydd carbon hyn, dim ond i fod yn eglur—y mawndiroedd ydyn nhw, y meysydd blodau gwylltion ydyn nhw, y tiroedd glaswellt hir ydyn nhw lle mae'r gylfinir yn nythu ledled Cymru y mae angen iddyn nhw fod yn rhyng-gysylltiedig ac y mae eu hangen nhw arnom ni i fod yn gynefinoedd. Wrth wneud hynny, rydym ni ar ein hennill ddwywaith, on'd ydyn ni? Fe fyddwn ni â mwy o amddiffyniad i'n bioamrywiaeth, ond fe fyddwn ni â'r ddalfa garbon hefyd sy'n gwbl angenrheidiol i ni ar gyfer gwrthsefyll yr hyn sydd ar ddod.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn i chi. Rwyf innau'n eich llongyfarch chi a'ch holl randdeiliaid am gyflawni'r targedau dros dro a'r targedau allyriadau net, oherwydd rwy'n credu mai ardderchog o beth yw hynny. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r cynllun gweithredu strategol sero net yr ydych chi'n ymrwymo i'w gyhoeddi erbyn diwedd yr wythnos hon, ac yn arbennig felly'r atodiad i'r datganiad terfynol, oherwydd rwy'n awyddus i ofyn i chi beth sydd ynddo ynghylch yr ôl troed carbon sydd gan Gymru o ran bwyd, oherwydd yn amlwg fe fydd hynny'n helpu i roi gwybod i ni sut ydym ni am leihau hwnnw, oherwydd hwnnw sy'n cyfrannu fwyaf yn unigol at gyfanswm carbon unigolion, yn hytrach na phenderfyniadau ar raddfa fawr a wneir gan y Llywodraeth.
Rwy'n cytuno nad oes lle i laesu dwylo yn hyn i gyd, a bod y blaned yn wynebu sefyllfa enbyd iawn os nad ydym ni'n gweithredu nawr. Roedd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd', a gyhoeddwyd gennym ni ym mis Mai, yn galw am strategaeth hirdymor eglur ar gyfer datgarboneiddio i roi'r hyder sydd ei angen ar ddiwydiant i fuddsoddi mewn sgiliau, technoleg a phobl. Fe wnaethom ni ofyn hefyd a allai'r cynllun gweithredu sgiliau sero net gael ei gyhoeddi erbyn mis Gorffennaf fan bellaf. Rydym ni'n cael gwybod nawr na fydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Rhagfyr, hyd yn oed. Mae hynny'n peri rhywfaint o siom i mi, ac fe hoffwn i wybod os nad y mis hwn, yna pryd yn union yn ystod y flwyddyn nesaf, oherwydd mae gwir angen hwnnw i sicrhau'r holl ddatgarboneiddio o'n tai gan weithio gyda'n gilydd.
Diolch yn fawr i chi, Jenny. Un o'r pethau a welwch chi pan gyhoeddwn ni'r cynllun hwn erbyn diwedd yr wythnos hon yw ffeithlun defnyddiol iawn, sydd, Dirprwy Lywydd, yn digwydd bod, yn y copi brys sydd gennyf i o fy mlaen i yma. Beth mae hynny'n ei ddangos yw rhai o'r ystadegau yr oeddwn i'n eu rhoi wrth ymateb i Janet Finch-Saunders. Mae'n nodi yn daclus iawn pa ddangosyddion sy'n goch ac yn ambr a pham felly, a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yn eu cylch. Mae amaeth a bwyd yn un o'r rhain, yn amlwg. Fe fyddwch chi'n gallu gweld bod yna amrywiaeth o wyrdd, ambr a rhai sydd heb eu graddio eto. Fe wnes i sôn ychydig yn fy natganiad am rai o'r data yr ydyn ni'n parhau i ymchwilio iddyn nhw, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi atodiad ar ôl i'r data gael eu dadansoddi.
Un o'r problemau mawr i ni yw lleihau ein hôl troed carbon wrth gynhyrchu bwyd, a sicrhau bod ein dalfa garbon ni'n aros yn ei lle, oherwydd, yn bryderus iawn, mae'r ddalfa garbon, er ei bod wedi perfformio fel y byddem ni wedi dymuno ar gyfer cyllideb 1 carbon, yn amlwg yn lleihau. Ac felly, un o'r amcanion pwysicaf wrth i mi fynd i COP15 a cheisio sicrhau ein bod ni â rhan lawn yn hynny o beth, yma yng Nghymru, yw ein bod ni'n gallu cynnal a chynyddu'r ddalfa garbon a weithredwn ni, nid yn unig at ein dibenion ein hunain ond at ddibenion gweddill y byd. Dyna pam nad ydym ni'n petruso o ran pwyso am goedwig genedlaethol, a'r cynlluniau coedwigoedd, ond y rhaglen i adfer mawndiroedd hefyd, yr wyf i'n falch iawn fy mod i wedi gallu ei threblu hi'n ddiweddar iawn. Hefyd, rydym ni, ynghyd â Llywodraeth y DU, ar fin gwahardd gwerthu mawn yn gyfan gwbl, ac nid cyn pryd ychwaith. Felly, mae'r pethau hyn yn bwysig iawn ac mae gwir angen i bobl eu cefnogi nhw.
Ond mae angen i ni fod â chynhyrchiant bwyd o ansawdd da sy'n lleol. Hynny yw, yn amlwg iawn, mae lleihau pellteroedd cludiant yn fuddiol o ran lleihau allyriadau carbon, ond mewn gwirionedd, os yw ansawdd y bwyd o ran maeth yn dda, mae hynny'n fuddiol iawn i'n ffermwyr ni hefyd, ac felly mae popeth er budd pawb yn hyn i gyd. Beth allai fod yn annymunol yn hyn? A dim ond ar gyfer gwneud y pwynt a wnaeth Arglwydd Deben ar ddechrau Wythnos Newid Hinsawdd mewn gwirionedd, ac mae hwnnw'n bwynt dadleuol hefyd: nid yw hyn yn ymwneud â deiet o blanhigion; mae'n ymwneud â deiet sy'n gynaliadwy, ac mae deiet cynaliadwy yn un sy'n deall sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu ac yn gwneud dewisiadau yn unol â hynny. Felly, mae'n ddrwg gen i, os ydych chi'n bwyta potsh afocado ar eich tost ar foreau Sul, yna rydych chi'n mentro i diriogaeth ddyrys iawn sy'n defnyddio llawer iawn o ddŵr, sy'n araf iawn i addasu i newid hinsawdd. Fe fyddai hi'n llawer gwell i chi gael tafell o gig moch lleol—ac rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi bod yn llysieuwr ar hyd fy oes. Mae hi'n bwysig iawn deall o ble mae bwyd yn dod, sut mae'n cael ei gynhyrchu, a sut mae'n cyrraedd ein bwrdd ni, ac yn y ffordd honno, fe fyddwch chi'n rhoi budd i gynhyrchwyr bwyd lleol.
Y peth arall i'w ddweud yw nad drwg o beth yw bod bwyd yn dod o bell bob amser. Mewn gwirionedd, mae masnach fyd-eang sy'n cefnogi mentrau cydweithredol a masnach deg menywod, a bwyd a gynhyrchir mewn ffordd weddaidd dramor, yn ein helpu i ymladd yn erbyn effeithiau newid hinsawdd yn fyd-eang hefyd, am fod hynny'n helpu pobl leol i addasu i'r hyn sydd ei angen arnyn nhw i allu cynhyrchu ac allforio, ar gyfer gwneud eu cymdogaeth nhw a'u bro eu hunain yn fwy cynaliadwy. Rwy'n falch iawn o'r gwaith a wnaeth Cymru gyda rhaglen Cymru ac Affrica a'r rhaglenni ailgoedwigo a gawsom ni yn Mbale. Mae honno'n enghraifft dda iawn—mae hynny'n bell i ffwrdd, ond, mewn gwirionedd, mae'r fasnach fyd-eang wedi cynyddu dalfa garbon y blaned gyfan, a'r bwyd a gynhyrchir yn lleol a choffi a gynhyrchir gydag uniondeb, o werth aruthrol mawr. Felly, pan fyddwch chi'n mwynhau eich coffi yn y boreau, a'r ffa wedi dod o Mbale, fe fyddwch chi'n gwybod, er gwaethaf y ffaith eu bod nhw wedi dod o bell i chi, eu bod wedi'u cynhyrchu yn gynaliadwy gan ffermwyr sy'n cael tâl iawn am wneud hynny. Rwy'n credu mai dyna'r math o beth sydd ei angen arnom ni mewn cyfundrefn labelu ac o ran polisi prynu. Mae fy ffrind, Rebecca Evans, a minnau wedi bod yn trafod polisïau caffael sector gyhoeddus Cymru, yn seiliedig ar y math yna o gylch rhinweddol, ers cryn amser.
Diolch, Gweinidog. Edrychwn ymlaen at weld copïau o'ch ffeithluniau chi.